Mae mam wedi cyfaddef iddi ladd ei mab 10 oed, oedd yn anabl, ar ôl iddi ddioddef problemau iechyd meddwl wrth geisio ymdopi i edrych ar ei ôl yn ystod y cyfnod clo.

Cafodd Olga Freeman, 40, ei chyhuddo o lofruddio Dylan Freeman, ar ôl iddo gael ei ganfod yn farw yn eu cartref yn Acton, gorllewin Llundain ar Awst 15 y llynedd.

Adeg ei farwolaeth roedd ei dad, y ffotograffydd adnabyddus, Dean Freeman, yn Sbaen.

Mewn gwrandawiad dros y we yn yr Old Bailey ddydd Llun (Ionawr 25) roedd Olga Freeman wedi gwadu llofruddio ei mab ond wedi cyfaddef dynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Dywedodd yr erlynydd Gareth Patterson QC bod y Goron wedi derbyn ei phle ar ôl ystyried yr achos yn ofalus.