Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn bryderus mai yn y DVLA yn Abertawe mae ymlediad mwya’r coronafeirws mewn gweithle yng ngwledydd Prydain.

Mae mwy na 500 o achosion wedi’u cofnodi yn y ganolfan yn nwyrain y ddinas, ac mae gweithwyr yn honni bod pobol â symptomau’n cael eu hannog i ddychwelyd i’r gwaith tra bod y cwmni wedi gwrthod ceisiadau gan bobol fregus i hunanynysu.

Dywed undeb PCS (yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol) ar ran staff y DVLA fod nifer o weithwyr yn ofni mynd i mewn i’r swyddfa.

‘Anfodlon’

Eglurodd Mark Drakeford ei fod wedi cysylltu â gweinidogion San Steffan ar fwy nag un achlysur, ond nad oedd yn fodlon â’r ymateb derbyniodd.

“Dw i wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf at weinidogion Llywodraeth y DU yn mynegi pryderon am y straeon rydym wedi eu clywed gan weithwyr rheng flaen [yn y DVLA],” meddai Mark Drakeford wrth BBC Cymru.

“Roeddwn yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall, os ydych yn gweithio yng Nghymru mai rheolau Cymru y mae’n rhaid ichi ddilyn, dim wythnos diwethaf gwnaethom gryfhau’r rheolau yn y gweithlu ymhellach o ganlyniad i’r amrywiolyn newydd y feirws.

“Doeddwn i ddim yn fodlon â’r ateb cyntaf, roeddwn i’n meddwl bod bwlch rhwng yr hyn yr oedd gweinidogion yn ei ddweud wrthym a’r hyn yr oeddem yn ei glywed gan bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y DVLA.

“Rwyf wedi cael ateb pellach, bydd rhaid sicrhau bod yr holl fesurau diogelu sydd eu hangen ar y gyfraith yng Nghymru ar waith a bod y DVLA yn cael ei drefnu a’i redeg mewn ffordd sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch staff o ganlyniad i’r argyfwng iechyd cyhoeddus.”

Mae oddeutu 1,800 o staff wedi cael cais i ddychwelyd i’r ganolfan i brosesu ceisiadau, er bod 535 o achosion o’r feirws wedi’u cofnodi yno ers mis Medi.

Ychwanegodd Mark Drakeford ei bod hi’n bwysig fod gweithwyr yn cael cyfle i rannu eu pryderon am y ffordd mae’r sefydliad yn cael ei redeg.

“Ond mae cyfrifoldeb, cyfrifoldeb clir, ar weinidogion gan fod [y DVLA] yn gyflogwr mawr yma yn Ne Cymru.

“Y rheol yng Nghymru yw gweithio o gartref lle bynnag y gallwch. Os yw’r rheolau hynny wedi’u torri yna bydd yn rhaid i bobl gymryd cyfrifoldeb am hynny.”

Ymateb y DVLA

Er gwaetha’r honiadau, mae’r DVLA yn mynnu bod diogelwch yn flaenoriaeth.

Maen nhw’n dweud bod staff sy’n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny “yn unol â chyngor cyfredol y llywodraeth”.

Ond maen nhw’n dweud bod “natur hanfodol” eu gwaith yn golygu bod rhaid i rai o’u staff fynd i’r swyddfa.

Dywed yr Adran Drafnidiaeth eu bod nhw’n hyderus fod yna “brosesau cadarn” ar waith yn y DVLA.

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Coronafeirws yn y DVLA: gweinidogion Llywodraeth Prydain dan y lach

Honiadau eu bod nhw wedi methu â diogelu gweithwyr rhag y feirws yn dilyn un o’r ymlediadau mwyaf