Mae’r arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wedi dweud ei fod yn hunan-ynysu ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws.
Dywedodd ei fod wedi cael gwybod bore ma (Dydd Llun, Ionawr 25) bod yn rhaid iddo hunan-ynysu.
Ychwanegodd nad oes ganddo symptomau ac y bydd yn gweithio gartref tan ddydd Llun nesaf.