Mae cantores werin aeth ati i sefydlu mudiad newydd o’r enw Amddiffyn Cymunedau Gwledig, a hynny mewn ymateb i’r broblem tai haf yn ei phentref genedigol, yn dweud bod y sefyllfa yn “boncyrs”.

Yn enedigol o Aberdyfi ac yn byw nepell i ffwrdd yng Nghwm Maethlon, mae Catrin O’Neill yn aelod o Gyngor Cymuned y pentref yn ne Gwynedd.