Tybed sut fath o gerdd fyddai Gwerful Mechain, Hwfa Môn, neu Gwenallt yn ei sgrifennu am argyfwng cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, lle mae eu llawysgrifau ar gadw?

Wel, mae un o weithwyr y Llyfrgell yn Aberystwyth wedi galw ar feirdd Cymru i gefnogi ymgyrch y staff i frwydro yn erbyn cynlluniau i dorri swyddi yno.