Mae’r criw sy’n ceisio sefydlu bragdy cwrw di-alcohol cyntaf Cymru wedi derbyn buddsoddiad o £1.5m gan y biliwnydd Henry Engelhardt, sylfaenydd cwmni yswiriant Grŵp Admiral.
Lansiodd y cwmni o Abertawe eu hymgyrch ariannu ar Ddydd Calan, ac yn fuan wedyn cysylltodd Henry Engelhardt gyda’r sylfaenwyr Joelle Drummond a Sarah McNena.
Eglurodd Henry Engelhardt fod y penderfyniad i fuddsoddi yn Drop Bear, y cwmni bragu o Abertawe, wedi bod yn un hawdd.
“Ar ôl darllen am Drop Bear yn y papur, fe brynais ychydig o’r cwrw,” meddai.
“Ar ôl ei drio roeddwn wrth fy modd, felly cysylltais â Joelle a Sarah a gofyn a oedd angen unrhyw gymorth arnynt i ddod â’r cynnyrch gwych hwn i’r byd.
“Roeddwn i’n gweld eu bod nhw ar y trywydd iawn i greu brand byd-eang ar gyfer cwrw di-alcohol, calorïau isel, heb glwten, figan! Waw! Mae gan y cynnyrch hwn gymaint o bethau cadarnhaol amdano, mae’n anhygoel!
“Roedd cefnogi’r ddwy entrepreneur yma yn un o’r penderfyniadau hawddaf rwyf wedi i wneud yn ystod fy ngyrfa o fuddsoddi.”
‘Mwy o ddylanwad cenedlaethol a rhyngwladol’
“Mae cael dyn busnes o brofiad ac enw da fel Henry yn cydnabod y gwaith anhygoel rydyn ni’n ei wneud gyda Drop Bear yn hollol wych,” meddai Sarah McNena.
“Mae ei fuddsoddiad, ynghyd â £300,000 sy’n dod o’n hymgyrch Crowdcube, yn ein galluogi i gynyddu capasiti cynhyrchu ymhellach, creu mwy o swyddi, a chael mwy o ddylanwad ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.”
Ar hyn o bryd mae’r Drop Bear yn bragu pedwar cwrw gwahanol: IPA, Pale Ale, Stout, a Lager.
Mae disgwyl i’r bragdy fod yn llwyr weithredol erbyn mis Hydref, gan greu chwe swydd newydd yn y lle cyntaf.
“Mewn llai na dwy flynedd a chyda buddsoddiad personol rydw i a Sarah wedi trawsnewid Drop Bear o syniad bach gennym yn ein fflat yn y Mwmbwls, i fod yn fusnes gwerth miliynau o bunnoedd gydag enw da yn rhyngwladol,” meddai Joelle Drummond.
“Fel sylfaenwyr Drop Bear, rydym mor gyffrous a brwdfrydig i ddangos i’r byd yr hyn y gall Drop Bear ei wneud gyda buddsoddiad sylweddol a beth fydd y bragdy hwn yn ei olygu i’r diwydiant cyfan.”