Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, yn poeni am effaith “sŵn byddarol” awyrennau yr RAF ar drigolion a diwydiant twristiaeth ardal Eryri.
Bu blwyddyn a mwy ers iddo godi’r mater gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac mae yn anhapus eu bod wedi prynu awyrennau sydd yn methu hedfan dros ddŵr – sy’n golygu bod y peiriannau pwerus yn gorfod cael eu hedfan dros dir yn unig.
Mae yn parhau i ofyn pam fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi prynu awyrennau i’w defnyddio yn RAF Fali heb yr offer diogelwch angenrheidiol i ganiatáu eu defnydd llawn dros ddŵr, a pham fod y gwaith o osod y cyfarpar diogelwch ar yr awyrennau yma heb ddigwydd flwyddyn yn ddiweddarach.
Honnodd ei fod wedi cael “sicrwydd bod camau’n cael eu cymryd i ddatrys y broblem” dros flwyddyn yn ôl.
Mae’r awyrennau, sy’n adnabyddus am wneud sŵn mawr wrth blymio, wedi’u cyfyngu rhag gweithredu dros ddŵr oherwydd problemau diogelwch gyda’r rafft achub, harnais, a’r siaced achub.
Mae hyn yn golygu bod hediadau wedi’u cyfyngu dros ardaloedd mwy poblog yn Arfon a Dwyfor yn bennaf, ac mae cwynion gan etholwyr wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r cyfnod cloi.
‘Hen bryd hoi sylw i’r effaith ar bobl leol’
“Mae ymhell dros flwyddyn ers i ni godi’r mater hwn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac uwch bersonél yn RAF Fali, pan roddwyd sicrwydd bod camau’n cael eu cymryd i ddatrys y broblem ddiogelwch hon,” meddai Hywel Williams.
“Mae angen i’r RAF hyfforddi eu peilotiaid wrth gwrs. Ond mae’n hen bryd iddyn nhw weithredu a rhoi sylw iawn i’r effaith ar bobl leol ac economi ymwelwyr yn Eryri, sydd eisoes yn dioddef oherwydd y pandemig.
“Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cyfaddef nad yw’r awyrennau hyn yn gallu gweithredu’n llawn dros ddŵr – sy’n codi’r cwestiwn, pam ar y ddaear y gwnaethon nhw eu prynu fel hyn yn y lle cyntaf, yn enwedig o gofio bod eu prif ganolfan ar ynys, wedi’i hamgylchynu gan ddŵr.
“Mae hyn yn codi cwestiwn ehangach o bolisi caffael yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ydyn ni wedi talu’n llawn am awyrennau na allant hedfan dros y môr?
“Pa ystyriaeth, os o gwbl, a roddwyd i fanyleb yr awyrennau hyn, o ystyried yr amgylchoedd y mae disgwyl iddynt weithredu ynddynt?
“Mae’r mater caffael hwn wedi datblygu o gyfyngiad gweithredol dros dro i’r hyn sy’n teimlo fel problem barhaol yn yr awyr uwchben Gwynedd, er mawr rwystredigaeth i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio o dan lwybr hedfan y Texan.
“Os fydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cymryd camau i ddatrys y broblem hon, ai dyna ddiwedd y mater, neu a fydd y tawelwch sy’n gysylltiedig â’r rhan hon o ogledd orllewin Cymru, ac sy’n cael ei werthfawrogi gan ymwelwyr, yn gorfod dioddef y raced swnllyd a achosir gan yr awyrennau yma am byth?”
“Sŵn byddarol”
Cafodd sylwadau Hywel Williams eu hadleisio gan ei gyd Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, sydd hefyd wedi mynd i’r afael â’r mater ar ran ei hetholwyr.
“Pan gyfarfûm â’r RAF yn San Steffan dros flwyddyn yn ôl, cefais sicrwydd bod camau’n cael eu cymryd i ffitio’r awyren Texan gyda’r offer angenrheidiol i ganiatáu hedfan dros y môr, a thrwy hynny leihau effaith y sŵn byddarol ar ardaloedd poblog,” meddai.
“Er gwaethaf codi’r mater dro ar ôl tro dros y flwyddyn ddiwethaf, ni fu unrhyw gynnydd, ac mae fy etholwyr yn parhau i fod yn rhwystredig nad yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwneud yn iawn eu haddewid.
“Er fy mod yn cydnabod bod hedfan yr awyren Texan yn cael ei hystyried yn agwedd annatod o raglen hyfforddi’r RAF, dylent o leiaf wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru’r effaith ar bobl leol, heb sôn am sicrhau bod gan eu hawyrennau’r offer diogelwch angenrheidiol.”