A hithau yn Ddydd Miwsig Cymru, mae’r actor adnabyddus Rhys Ifans wedi dweud fod “miwsig Cymraeg wedi siapio fi mewn ffordd sylfaenol iawn”.

Gwnaeth ei sylwadau mewn sgwrs gyda’r DJ Huw Stephens, y dyn wnaeth sefydlu Dydd Miwsig Cymru i dynnu sylw at fandiau ac artistiaid ein gwlad.

Fe gafodd y Dydd Miwsig Cymru cyntaf ei gynnal ym mis Chwefror 2013, gan dderbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i drefnu digwyddiadau cerddorol ledled y wlad.

Ond mae dathliadau Dydd Miwsig Cymru yn symud ar-lein eleni yn sgil pandemig y coronafeirws, gyda gigs, fideos a thraciau’n cael eu lansio ar AM, sef gwefan ac ap cerddoriaeth diwylliant Cymreig.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dechrau am ddau’r pnawn ac yn para tan ddeg y nos, ond bydd gan AM gynnwys ar gael drwy’r dydd hefyd, gyda pherfformiadau gan Alffa, Gwilym a Mellt.

Sgwrs gyda Rhys Ifans

Heno am saith bydd sgwrs awr o hyd rhwng Rhys Ifans a Huw Stephens yn cael ei darlledu ar AM.

Bydd Rhys Ifans yn rhannu eu hoff atgofion personol am fiwsig Cymraeg, o gyflwyno ffrindiau pync-roc Gwyddelig i Datblygu, i gig Super Furry Animals ym Mhontypridd yn 1995 a chwrdd â Howard Marks yn annisgwyl, cyn i Rhys ei bortreadu mewn ffilm yn adrodd hanes ei fywyd, sef Mr Nice.

Logo Gŵyl Dydd Miwsig Cymru

“Mi roddodd y sîn ddigon o hyder i fi yn fy Nghymreictod”

Mae golwg360 wedi cael ambell ddyfyniad o’r sgwrs, i chi gael blas ar sylwadau Rhys Ifans.

“Yn sicr, heb amheuaeth, mae o wedi fy siapio i mewn ffordd sylfaenol iawn,” meddai’r actor wrth drafod dylanwad cerddoriaeth Gymraeg arno.

“Mi roddodd y sîn ddigon o hyder i fi yn fy Nghymreictod.

“Mi es i â’n ffrindiau pync rocer Gwyddelig i gig yn Hammersmith, mewn tafarn yn Hammersmith, efo Datblygu a’r Anhrefn. Ac oedden nhw wrth eu ff**** bodd.

“Oedden nhw’n gwybod y tiwns hefyd, sy’n anhygoel.”

Dylanwad y Super Furry Animals

Rhys Ifans oedd front man cyntaf y Super Furry Animals, cyn iddo benderfynu actio’n llawn amser.

A dros y blynyddoedd mae wedi ymddangos mewn sawl fideo gan y band, ar gyfer caneuon megis ‘Hometown Unicorn’ a ‘God! Show Me Magic’.

Ac mae’n grediniol fod y band wedi gwneud mwy dros yr iaith Gymraeg nag unrhyw artist arall yn yr ugain mlynedd ddiwethaf.

Cyhoeddodd y Super Furry Animals eu campwaith Cymraeg, Mwng,  ar Fai 15 2000.

Ac fe gyrhaeddodd yr albwm uniaith Gymraeg rif 11 yn y siartiau Prydeinig, a hyd heddiw hon yw’r albym Super Furries sydd wedi gwerthu orau yn yr Unol Daleithiau.

Yn ymateb i gwestiwn gan Huw Stephens – “Mae’n siŵr bod y Super Furry Animals wedi gwneud mwy dros yr iaith na’r un artist arall mae’n debyg, ydyn nhw?” – mae Rhys Ifans yn ateb ar ei ben:

“Heb amheuaeth, heb amheuaeth. Ac maen nhw wedi gwneud hynny mewn ffordd mor urddasol hefyd, ac mor ddiymdrech. A dyna’r her.

“Ugain mlynedd cyn hynny, fyse canu’n ddwyieithog… dw i ddim yn gwybod fyse hynny wedi gweithio.

“Roedd yna ddigon o hyder yn y genhedlaeth yna, eu cenhedlaeth nhw, ein cenhedlaeth ni, i allu canu mewn dwy iaith, i allu teimlo y gallwn ni ei rhannu hi heb ei difrodi hi mewn rhyw ffordd.

“Dw i’n dal i deimlo hynna, achos oedd hynna’n newid amlwg iawn, yn newid diwylliannol.

“I rywun ganu cân i ti yn eu hiaith nhw, neu ddarllen cerdd yn eu hiaith nhw, gei di ddim anrheg well na hynna, na defod well na hynna.

“Yn ddiwylliannol, dw i’n credu bod hynna’n un o’r ffyrdd gorau o groesawu rhywun. Ac i fi, mae hynna’n brydferth.”

‘Miwsig – y llysgennad gorau ar gyfer y Gymraeg’

Dyma dalp difyr arall o sgwrs Rhys Ifans gyda Huw Stephens:

Rhys: “Dw i’n credu bod miwsig wedi bod heb ffiniau erioed. Mae wedi bod yn ffordd i mewn erioed. A dw i’n credu, yn fwy na’r un cyfrwng arall, mai miwsig ydy’r llysgennad gorau ar gyfer y Gymraeg, does yna ddim dwywaith.

“Mae rhoi miwsig i iaith yn rhoi is-deitlau iddi, ac yn ei gwneud hi’n rhyngwladol, ac yn iaith i bawb. Achos mae’r gân a’r diwn yn rhywbeth mae pob clust yn gallu’i deall. Mae’n gwneud i ti fod eisiau gwrando ar y geiriau.”

Huw: “Mae’n wych o lein, honna – mai miwsig sy’n rhoi is-deitlau i eiriau. Alla i ddim credu bo fi heb glywed honna o’r blaen.”

Rhys: “Alla i ddim credu bo fi heb ei deud hi o’r blaen!”

Huw: “Mae’n hyfryd, honna.”

Rhys: “Dw i wedi bod ar ben fy hun mor hir!”

Sioe radio Gymraeg hiraf erioed i ddathlu Dydd Miwsic Cymru

“Dewch i wrando! Os ddim am yr 11 awr, am dipyn bach!,” meddai Huw Stephens