Mae S4C wedi cyhoeddi bod Elain Edwards Dezzani yn ymuno â chriw cyflwyno Heno tra bod Mari Grug a Llinos Lee ar gyfnod mamolaeth.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn, mae Elain bellach yn byw gyda’i theulu yn y Bontfaen.

Mae hi’n gyfnither i’r actor enwog Mathew Rhys, ac wedi cyfarfod Tom Hanks – “un o highlights fy ngyrfa!”

Bydd rhai gwylwyr yn ei chofio yn cyflwyno rhaglenni Planed Plant bymtheg mlynedd yn ôl.

Fe adawodd Elain am Los Angeles, gan weithio fel cyflwynydd, golygydd trêls a thechnegydd colur.

Dychwelodd gyda’i theulu yn ôl i Gymru’r llynedd, ac mae hi’n hapus yn dechrau ei swydd newydd yn cyflwyno Heno.

“Mi ydw i’n edrych ymlaen yn arw i fynd yn ôl i gyflwyno ar y teledu,” meddai.

“Dw i wedi gweithio tu ôl i’r camera yn fwy diweddar dros gyfnodau ysbeidiol, ond yn bennaf dwi wedi bod adref yn magu’r plant, felly mi fydd o’n neis i fod yn fi fy hun unwaith eto.

“Mae yna wefr i gyflwyno ac mae Heno yn un o gonglfeini amserlen S4C, felly mae hon yn gyfle ffantastig i mi.”

Hug gan Tom Hanks – un o highlights fy ngyrfa!”

Tra yn LA, roedd Elain yn gyflwynydd ar sianel Current TV, a sefydlwyd gan y cyn-ymgeisydd Arlywyddol Al Gore.

Pan ddaeth y sianel i ben, fe aeth hi ymlaen i weithio fel technegydd colur i sawl seleb, gan gynnwys ei chefnder, yr actor Matthew Rhys.

Ychwanegodd: “Pan symudais allan i LA, roedd Matthew yn byw yna’n barod ac mi’r oedd o’n neis iawn cael o yno.

“Roedd o fel brawd mawr, achos doedd yna neb arall oeddwn i’n adnabod cystal i mi siarad Cymraeg hefo. Roedden ni’n gweld lot o’n gilydd.

“Pan oedd o’n dod yn fwy enwog  dros amser, roedd o’n cael ei alw i wneud fwy o bethau PR a charped coch, ac mi ges i weithio lot efo fo – roedd o’n fy nhrystio i!

“Ges i gwrdd â Tom Hanks yna hefyd drwy Matthew, a ges i hug gan Tom Hanks – un o highlights fy ngyrfa!”

Balch o gael “cymuned” yn y Bontfaen

Dywedodd Elain Edwards Dezzani ei bod hi’n falch o gael “cymuned” yn y Bontfaen.

“Roedd LA yn le hwyliog i fod yn fy ugeiniau a thridegau, i gael profiadau newydd, cyn cael plant.

“Ond pan ti’n cael plant, ti eisiau magu nhw mewn lle ac mewn cymdeithas sy’n ennyn daliadau cryf ac felly wnaethon ni’r penderfyniad ein bod ni am symud yn ôl i Gymru.

“Ac yn syth bin ar ôl symud i’r Bontfaen, oeddet ti’n teimlo bod y gymuned yno yn edrych ar dy ôl, a doedd hynny ddim yn rhywbeth oeddet ti’n cael yn LA.”