Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

A Gentleman in Moscow gan Amor Towles. Ydyw e’n dda? Sa i’n siŵr eto gan nad ydw i wedi torri asgwrn cefn y stori; y pwynt hwnnw ar ddechrau nofel pan nad ydych chi cweit yn siŵr os yw hwn am afael ynddo chi neu am fod yn faich. Ond dw i hefyd, pan fo angen rhywbeth ysgafnach, wrthi’n mwynhau Ibuprofen s’il vous plaît Dewi Prysor. Fe ges i’r cyfle fel gohebydd i ddilyn tîm Cymru drwy Bencampwriaeth Ewro 2016 ac mae ail-fyw’r cyffro a’r rhamant yn bleser pur. Oherwydd y llwyddiant, y cefnogwyr, y croeso a llu o gynhwysion eraill greodd y sefyllfa ddelfrydol i Gymru, dw i ddim yn credu y cawn ni brofiad tebyg eto. Ac mae Dewi yn crynhoi’r cyfan yn ei ffordd unigryw ei hun.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Dw i’n cofio cael benthyg Bounce, Matthew Syed, gan ffrind i fi flynydde nôl, a dw i’n credu bod y copi gyda fi o hyd (sori, Dan).

Cyn-chwaraewr tennis bwrdd, awdur, newyddiadurwr a cholofnydd chwaraeon y Times yw Syed, ac mae e’n edrych yn fanwl yn y llyfr hwn ar y berthynas rhwng ‘ymarfer’ a dawn ‘naturiol’ sêr y byd chwaraeon. Byddai 10,000 o oriau ymarfer dros ddeng mlynedd yn ddigon i unrhyw un gyrraedd lefel ‘elît’ medde fe. Ar ôl ei ddarllen, penderfynes i mai gohebu ar chwaraeon fyddai orau i fi!

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf

Hanes Cymru oedd fy mhrif bwnc yn y brifysgol. Wrth ochr degau o lyfrau gwych y bues i’n dibynnu arnyn nhw, roedd yr hen ffefryn – Hanes Cymru, John Davies – wrth law ar bob achlysur. Diolch i help athrylithgar John Davies – fe raddies i!

Y llyfr sy’n hel llwch

A Tale of Two Cities – Charles Dickens. Ddim yn siŵr pam. Dw i wedi mynd ati ddwywaith, ond mae bywyd wedi codi ei rwystrau arferol. Y math o lyfr chi’n teimlo y dylen i fod wedi’i ddarllen? Werth yr ymdrech? Cysylltwch!

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Ulysses, James Joyce. Dw i’n credu bod gan bawb sydd wedi darllen a deall hwn yr hawl i frolio.

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Cerddi Dic yr Hendre (Detholiad o Farddoniaeth Dic Jones). Dw i’n darllen tipyn o farddoniaeth, y dwys a’r digri, ac yn edmygwr mawr o ddoniau ein beirdd. Ond yn y llyfr hwn mae yna bopeth. Dyma lyfr sy’n byw wrth ochr y gwely – dw i’n teimlo’n well ar ôl pori trwy hwn.

Y llyfr sydd wastad yn codi gwên

The Lord Of The Rings. Dim ond oherwydd ei fod yn dod ag atgofion melys nôl o gyfnod pan wên i’n darllen lot fel crwt ifanc. Mi wnaeth byd hudol Tolkien afael ynof. Ar ôl gorffen y cyntaf yn gyflym iawn, dw i’n cofio’r siom o droi’r ddalen olaf a sylweddoli bod y cyfan ar ben; cyn y cyffro o ddeall bod yna ddau arall yn rhan o’r gyfres. Gorfodes i fy mam druan i fynd ar ei phen i brynu’r ddau nesaf o’r siop leol yn Aberteifi – diolch Geinor!

Y llyfr fyddwn i’n ei roi yn anrheg

Y Ffordd Beryglus T Llew Jones, a phob nofel arall gan y dewin. Dyma anrheg i fy meibion gan obeithio y byddan nhw, fel eu tad, ryw ddydd yn defnyddio fflachlamp gyda’r nos i orffen y straeon cyffrous dan y duvet.

Fy mhleser (darllen) euog

Oes rhaid teimlo euogrwydd? Dw i’n amau. Llyfr John Grisham da ar wyliau yn iawn, glei? 

Pa fath o lyfr yr hoffech chi ei sgrifennu, neu am beth? 

Hanes Cymru … o’r fan lle y mae John Davies wedi ei gadael hi. A chael adolygwyr yn clodfori campwaith sydd yn llwyddo i roi hanes ein cenedl yn yr unfed ganrif ar hugain yng nghledr eich llaw. Dyw e ddim am ddigwydd – ond mae uchelgais i’w glodfori.

Iwan Griffiths

Mae Iwan Griffiths yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru ac yn ohebydd ar raglen Newyddion S4C. Mae e hefyd i’w weld yn cyflwyno Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Daw o Aberteifi yn wreiddiol, ac mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig Hanna a’u meibion Aneirin a Brynmor.