Mae sengl gynta’r gantores Mali Hâf yn gân bop fachog sy’n codi calon, a hynny mewn dyddiau digon dyrys.

Fe gafodd ‘Ffreshni’ ei rhyddhau yn ddiweddar, ac mae hi’n diwn hyfryd o hamddennol sy’n swnio’n gyfoes a… ffresh!

“Mae hi’n gân ti’n rili gallu dianc gyda hi, am wn i,” meddai’r gantores 23 oed o Gaerdydd.

“Mae hi’n gân eithaf Hafaidd – wnes i sgwennu hi yn yr Haf, ond ma’ fe’n dod mas nawr.

“Ac i fod yn onest, roeddwn i bach fel: ‘Www, dyw e’ ddim yn mynd gyda’r tymor’.

“Ond sdim ots, rili, achos mae pawb angen kind of dianc ar y foment.

“Ryden ni wedi colli allan ar yr Haf, felly dw i wedi kind of rhoi cân iddyn nhw i wneud lan am hynny!”

Ddyla neb synnu fod Mali Hâf yn gallu cynhyrchu caneuon pop catchy – mae hi wedi astudio’r grefft, cydweithio gyda cherddor profiadol, ac wedi cyrraedd ffeinal prif gystadleuaeth cyfansoddi’r Cymry.

Y llynedd roedd hi i’w gweld, dan yr enw ‘Mali Melyn’, yn canu ei chân ‘Aros Funud’ ar Cân i Gymru 2019.

A chyn hynny bu’n astudio Cerddoriaeth Bop yng Ngholeg Cerdd Leeds.

“Roedd y cwrs yn arbenigo ar y llais, ond hefyd yn cynnwys cyfansoddi a sut beth yw bod yn gerddor yn y byd pop, ac ati.

“Ac roedden ni’n edrych ar lot o genres gwahanol o bop…”

Fe arhosodd Mali Hâf yn Leeds am flwyddyn ar ôl graddio, yn “ceisio ffigro pethe mas” cyn i’r geiniog syrthio.

“Wnes i jesd sylweddoli bo fi wir moyn dechre gyrfa canu a gwneud miwsig fi adref. Dyna ble’r oeddwn i moyn cychwyn pethe.

“Felly ar ôl ffaffio o gwmpas am flwyddyn, wnes i dod nôl i Gaerdydd.”

Ers dod adref mae Mali Hâf wedi bod yn jyglo gyrfa ganu gyda’i gwaith yn gymhorthydd addysg mewn ysgol gynradd yn y brifddinas.

Ac mae hi wedi mwynhau cydweithio gyda’r cynhyrchydd DJ Shamoniks, sef y cerddor dawnus Sam Humphreys, sy’n fwy adnabyddus am chwarae’r gitâr yn y band gwerin-ffynci Calan.

Yr hyn sy’n drawiadol – ond ddim wir yn syndod yn nyddiau rhyfedd y pla – yw hyn: nid yw Mali Hâf a Sam Shamoniks erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb, nac ychwaith wedi torri gair ar lafar.

Mae’r holl gydweithio wedi digwydd dros e-byst a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.

“Dw i ddim yn hoffi sgrifennu caneuon ar ben fy hunan, o gwbwl,” meddai Mali Hâf.

“Rydw i’n caru team work pan fi’n sgrifennu.

“Roeddwn i’n arfer meddwl mai fi sy’n gorfod sgrifennu’r gân, dangos e’ i’r band, bla bla bla.

“Ond fi ddim yn joio fe fel yna. Fi’n hoffi gwneud e’ gyda mwy nag un person, a chael barn pobol eraill hefyd.”

Fe gysylltodd Mali a Sam gyda’i gilydd drwy gyd-ffrind oedd ganddyn nhw ar wefan instagram.

“O ystyried nad ydan ni wedi cwrdd â’n gilydd, mae perthynas dda gyda ni o ran dweud beth ry’n ni’n teimlo am y broses,” meddai Mali, sy’ wedi cael blas ar ambell agwedd o weithio o bell.

“Dw i’n hoffi fe, a ryden ni’n gweithio fel hyn ers sbel nawr, oherwydd y corona…

“Tracs yn cael eu danfon, a gwneud e’. Fi’n hoffi’r broses yna.

“Mae e’n teimlo fel fy mod i’n gallu gwneud y dewisiadau fy hun, mae e’ i gyd lan i fi.

“Ond y peth rydw i wedi cael trwbwl efo, ydy recordio adref.

“Rydw i’n casáu technoleg. It’s not for me!

“Felly, ie, dw i wedi cael digon o hwnna nawr. A fi moyn mynd nôl i’r stiwdio.

“Yn enwedig pan mae rhywun yn dweud: ‘Alli di ail-wneud hyn? Achos dw i’n clywed headphopnes ti fan hyn…’

“Neu: ‘O mae hwn bach yn distorted’.

“A fi fel: ‘Oh! Dim sgil fi yw hyn!’”

Y sengl nesa’

Y cynllun yw rhyddhau un gân y mis, a’r nesaf fydd ‘Dawnsio yn y bore’, a fydd allan ddiwedd Chwefror.

“Dw i newydd rhoi dipyn bach o sacsoffôn mewn i caneuon fi, a dw i’n caru fe,” meddai Mali wrth drafod y sengl nesa’.

“Sa i’n gwybod pam dw i heb feddwl amdano fe o’r blaen, ond mae e’n rili siwtio stwff fi.

“Wnaeth ffrind fi cymharu [‘Dawnsio yn y bore’] ychydig bach gyda Arlo Parks a MahaVia, ac mae hynna’n cŵl.

“Dw i’n hapus gyda hwnna.”

Ac o gofio teitl y gân nesa’, oes yna ddigon o egni ynddi?

“Ie, oes, ond chilled sort of egni.

“Achos mae fe yn y bore, a chi dal yn codi lan.”

Trac arall sydd ar y gweill yw ‘Blodau’.

Dyma gân swynol a bachog, ond yn wahanol i ‘Ffreshni’, mae’r bît yn galetach ac mae yna fwy o frathiad yn llais y gantores ar hon.

“Fel person, dw i yn soffti rili, a ddim efo agwedd rhywun crac o gwbwl,” meddai Mali.

“Ond yr unig ffordd rydw i’n hoffi bod fel yna, yw efo dipyn bach mwy o attitude yn miwsig fi. Bach o sass!”

Ac mae hi’n swnio fel merch sydd mewn cariad ar ‘Ffreshni’.

“Ie, dw i wedi canu e’ trwy llygaid fy ffrind gorau i… dw i ddim rili [wedi bod mewn cariad].

“Dw i’n gobeithio bod y gân yna yn mynd i fod yn relatable i fi, ryw ddydd!

“Dyna gôl fi, beth fi moyn teimlo fel.”

Gasbio am gig

“Dw i’n caru perfformio yn fyw lot yn fwy na recordio adref!” meddai Mali Hâf gan chwerthin yn hiraethus.

“Rwy’n teimlo fel fy true self [ar lwyfan] ac yn hoffi bod mewn sioe, yn creu egni da… dw i’n hoffi rhoi life and soul of the party vibes.”

Er ei bod hi’n ffili aros i gael camu ar lwyfan unwaith eto, mae gan Mali gwestiynau digon dilys.

“Dw i’n poeni dipyn bach am pan fydd pethau yn agor eto, ydy pawb yn mynd i drïo perfformio?

“Fydd yna ciw mawr?! So ni’n gwybod!

“Dw i’n byw gyda cherddorion, ac roedden ni’n siarad am hyn.

“Ac roedd un ohoni ni yn gofyn: ‘Beth fydd perfformiad cynta ni fel?’

“Fyddwn ni fel: ‘sa i’n cofio sut i wneud hyn dim mwy’.

“Fyddwn ni’n panicio?

“Neu, y ffordd arall – am bod ni wedi bod yn aros am ages – pan fydda i ar y llwyfan, fydda i yn mynd all out, falle gormod, over the top

“Gobeithio mai mynd dros ben llestri fydd hi!”