Mae dynes fusnes o Wynedd wedi ysgrifennu llyfr coginio llawn rysetiau gan aelodau o gymunedau lleiafrifol ethnig yng Nghymru, mewn ymateb i boblogrwydd y mudiad Bywydau Du o Bwys.

Cafodd The Melting Pot ei roi at ei gilydd gan Maggie Ogunbanwo sy’n byw a gweithio o’i chartref – hen dafarn Y Llew Coch – ym mhentref Penygroes, gwta saith milltir o dref Caernarfon.

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y llyfr yn ystod 2020, eglura’r Gymraes raddiodd mewn Microbioleg o Brifysgol Lagos yn Nigeria. Yn wraig ifanc fe ddaru Maggie Ogunbanwo a’i gŵr ffoi o Affrica o ganlyniad i aflonyddu cymdeithasol a rhyfela.

Daeth i Gymru a dysgu siarad Cymraeg, ac yn ddiweddar cafodd ei hysbrydoli i gyhoeddi llyfr coginio.

“Roedd cymaint o sôn am Black Lives Matter a dw i’n rhan o’r diwydiant bwyd yng Nghymru,” eglura Maggie Ogunbanwo sydd wedi ennill gwobrau am ei sawsiau chilli.

“Ond doeddwn i ddim eisio talu lip-service [i’r mudiad a sefydlwyd yn 2013]. Roedd pawb yn neidio ar y bandwagon – sori dw i ddim yn gwybod sut i ddweud bandwagon yn Gymraeg!” meddai dan chwerthin.

Fe aeth Maggie Ogunbanwo ar ofyn Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, sy’n rhan o Adran Fusnes Llywodraeth Cymru.

Maggie Ogunbanwo

“Roedden nhw’n hapus iawn efo fy syniad [am lyfr coginio]. Roedden nhw wedi bod yn meddwl beth i’w wneud i ddangos cefnogaeth go-iawn, achos mae gennym ni lawer o bobol o leiafrifoedd ethnig yn cynhyrchu bwyd ac ati.”

Yn 1997 sefydlodd ei busnes bwyd ei hun, Maggie’s Exotic Foods, sydd wedi esblygu’n ddiweddar i Maggie’s African Twist.

“Mae pobol o leiafrifoedd ethnig – a phobol yn gyffredinol – yn siarad drwy fwyd. Felly efo’r llyfr coginio ro’n i eisio creu adnodd fyddai ar gael i’r gymuned ehangach ar draws Cymru.”

Er bod ganddi gysylltiadau helaeth o blith pobol o gefndiroedd ethnig yng Nghymru, fe sicrhaodd Maggie Ogunbanwo gefnogaeth gan yr asiantaeth menter a busnes Cywain er mwyn sicrhau trawsdoriad eang o bobol i gyfrannu rysetiau i’r llyfr.

“Mae gen i tua 18 o gyfranwyr o bob un rhan o Gymru – o Syria, Bali, sawl gwlad yn Affrica, India’r Gorllewin, Asia sy’n cynnwys Bangladesh … dw i’m yn eu cofio i gyd rŵan!”

  • The Melting Pot ar gael ar hyn o bryd drwy wefan maggiesafricantwist.com am £9.99 neu mewn rhai siopau o fis Mawrth 16 ymlaen ac ar ffurf ddigidol ar wefan Amazon.

Paentio swastika ar gartref Maggie Ogunbanwo

Ym mis Mehefin 2020 fe ddaru llwfrgi hiliol baentio symbol Natsïaidd ar gartref Maggie Ogunbanwo a’i theulu ym mhentref Penygroes yng Ngwynedd.

Hyd heddiw dyw Heddlu Gogledd Cymru heb ddwyn achos yn erbyn y sawl wnaeth gyflawni’r drosedd, meddai Maggie Ogunbanwo ddechrau’r wythnos.

“Does yna ddim digon o dystiolaeth, dw i wedi clywed gan yr heddlu, ond rydan ni yn gwybod ym Mhenygroes pwy wnaeth,” meddai.

O ran ei theimladau am hynny, mae hi’n dawel am ennyd cyn ateb: “Dw i’n iawn a dweud y gwir, achos allan o weithred o hiliaeth daeth pethau positif i mi. Ia … dw i’n iawn … mae gennym ni fel teulu lot fawr o gefnogaeth ac rydan ni wedi setlo mwy yn y pentref rŵan na cyn y digwyddiad, a dweud y gwir. Dw i’n siŵr bod pobol Penygroes yn edrych allan amdanom ni – mae hynny’n wir.”

Yn dilyn y weithred hiliol fe wnaeth cannoedd o bobol droi allan i wrando ar Maggie Ogunbanwo yn siarad mewn rali Bywydau Du o Bwys ar Y Maes yng Nghaernarfon.