Mae dynes ifanc o’r Bala gafodd ei gwobrwyo am ei gwaith yn hyfforddi plant a phobol ifanc i chwarae rygbi, yn gwireddu ei breuddwyd drwy astudio i fod yn fydwraig.

Ym mis Rhagfyr y llynedd daeth Tirion Thomas yn fuddugol yng nghategori’r ‘Arwr Tawel’ yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru – teitl y bydd yn ei chadw am flwyddyn gron.