“Dadi, edrych!” Dyna eiriau Lily Wilder, sy’n bedair oed, ar ôl iddi ddod o hyd i’r ôl traed deinosor yma ar draeth ger y Barri.

Grallator yw’r enw ar y math yma o ôl troed, sydd tua 220 miliwn oed, ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain. Bydd y ffosil yn cael ei roi i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.