O’n i’n siarad gyda’r Swiss Ambassador unwaith (o’n i wastad ishe agor colofn gyda hynna, so dyma nghyfle i, a ma fe’n lled-wir – es i i ddarlith a gweud bonjour wrtho wedyn) a dwedodd e (yn ei ddarlith, ddim wrtho fi’n bersonol – o’dd y sgwrs honno am shwt i gyrra’dd y steshon), yn fras, y bydde ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd yn annhebygol ar ôl gadael, gan y byddai’r disgwrs cenedlaethol yn rhoi Prydain a’r UE benben â’i gilydd yn dragwyddol, gan arwain at deimlad cynyddol o’r