Rydw i’n cofio’r tro cyntaf wnes i gyfarfod Jonny Owen. Roeddwn i wedi mynd i weld ei fand gwych, the Pocket Devils, yng Nghlwb Ifor Bach yn 1991. Wedyn roedden ni’n dau wedi mynd am yr un swydd gyda HTV Soccer Sunday a Jonny enillodd y rôl yna cyn gadael i gymryd rhan yn Nuts & Bolts, gan actio gyda fy nhad yn y gyfres ddrama.