Mae gan bawb eu hobsesiynau. Duw â ŵyr, dwi wedi cael digon ohonynt, ond fel rheol mynd a dod maen nhw. Er, mae yna dri sydd wedi aros efo fi. Fel aelod llawn o’r clwb cŵnberchnogion gwallgof – rydach chi’n eu nabod nhw, y bobl yna sy’n cael sgyrsiau’n uchel gyda’r ci wrth fynd â fo am dro – mae cŵn yn sicr yn un. Fy anrheg Dolig eleni gan fy chwaer oedd collage mawr ag amryw luniau o Sioni arno, sy’n falch ei le uwch y lle tân rŵan.