Unwaith eto, methu wnaeth yr ymdrech i sicrhau bod Hanes Cymru’n gorfod cael ei ddysgu yn ysgolion y wlad.

Roedd yr AoS Siân Gwenllïan wedi cynnig gwelliant mewn pwyllgor, ond gwrthod wnaeth Llywodraeth Cymru unwaith eto.