Mae S4C wedi ymddiheuro am broblemau technegol sydd yn effeithio gwasanaethau’r sianel.

Ers rhai dyddiau mae problemau technegol wedi atal y sianel rhag llwytho rhai rhaglenni ar lwyfannau Clic a BBC iPlayer.

Mae prif weithredwr S4C, Owen Evans, wedi awgrymu na fydd modd datrys y broblem tan ar ôl y penwythnos.

Symud i Sgwâr Canolog sydd ar fai

Ers wythnos diwethaf mae S4C yn darlledu o Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Ond mae hyn wedi achosi trafferthion gyda bwydo rhaglenni i wasanaethau Clic ac iPlayer.

“Ar y cyfan mae pethau wedi mynd yn llyfn iawn,” meddai Owen Evans.

“Ond rydym wedi profi rhai problemau gydag S4C Clic – yn arbennig felly gyda rhaglenni ar-alw S4C Clic a rhai gwasanaethau eraill e.e. is-deitlau.

“Rydym yn ymddiheuro yn fawr am hyn ac mae darparwyr technegol S4C yn gweithio’n galed i ddatrys y problemau.”

Cyn hyn roedd S4C wedi bod yn darlledu o Barc Tŷ Glas yn y ddinas ers y 90au cynnar, a chyn hynny o Glós Sophia ers ei lansio yn 1982.

Yn ôl adroddiad blynyddol S4C mae llai yn gwylio S4C ar y teledu, ond mae deunydd ar-lein y sianel yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Does dim modd gwylio rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C ar wasanaeth BBC iPlayer na Clic ar hyn o bryd

 

S4C yn darlledu o Sgwâr Canolog Caerdydd am y tro cyntaf

Gwasanaeth plant y sianel, Cyw, oedd y rhaglenni cyntaf i’w darlledu o Sgwâr Canolog am 6.00 y bore.