Fe ddarlledodd S4C o Sgwâr Canolog, Caerdydd am y tro cyntaf erioed heddiw (ddydd Mercher 27 Ionawr 2021).

Mae S4C wedi bod yn darlledu o Barc Tŷ Glas yn y ddinas ers y 90au cynnar, a chyn hynny o Glós Sophia ers ei lansio yn 1982.

Ond gyda phencadlys y sianel bellach wedi symud i Ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin mae yno bartneriaeth ddarlledu newydd gyda’r BBC.

Gwasanaeth plant y sianel, Cyw, oedd y rhaglenni cyntaf i’w darlledu o Sgwâr Canolog am 6.00 y bore.

Mae gwasanaeth S4C Clic a BBC iPlayer hefyd yn cael eu bwydo o’r ganolfan yng nghanol y ddinas.

Bydd tua 25 o staff yn gweithio i S4C o swyddfa newydd y sianel yn Sgwâr Canolog gan gynnwys yr Adran Gyflwyno, Llyfrgell, a’r Adran Hyrwyddo a Masnachol.

“Strategaeth hirdymor”

“Dyma benllanw blynyddoedd o waith cynllunio manwl wrth i ni gyflawni cam arall yn ein strategaeth hirdymor,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Wrth i ni symud ein pencadlys i’r Egin a phartneru efo’r BBC ar gyfer ein gwasanaethau darlledu, rydym yn sicrhau diwedd llwyddiannus i drawsffurfiad S4C o’i hen bencadlys ym Mharc Tŷ Glas.

“O hyn ymlaen mi fydd y BBC yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C ar deledu ac ar-lein, yn ogystal â bod yn gyfrifol am isadeiledd technegol S4C.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau’r trosglwyddiad llwyddiannus hwn.”

“Diwrnod arwyddocaol”

Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Dyma ddiwrnod arwyddocaol wrth i S4C ddarlledu o ganolfan y BBC yn y Sgwâr Canolog am y tro cyntaf ac mae’n dyst i waith caled ac ymroddiad ar draws y ddau ddarlledwr.

“Mae’r rhaglen gymhleth hon wedi ei gwneud yn fwy heriol byth wrth i ni barhau i weithio o dan amgylchiadau tra gwahanol yn sgil y pandemig a hoffwn ddiolch i’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o’r bartneriaeth allweddol yma am ein cael i’r garreg filltir bwysig hon.”