Yr wythnos hon, daeth y cyhoeddiad mai Mared Edwards o Fôn yw Llywydd newydd yr Urdd a hi fydd wrth y llyw am y ddwy flynedd nesaf.

Yn wreiddiol o Borth Swtan, Ynys Môn mae hi bellach ar ei blwyddyn olaf yn astudio Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ei hethol yn is-gadeirydd Bwrdd yr Ifanc, fforwm ieuenctid cenedlaethol yr Urdd, yn 2018 a threuliodd gyfnod yn gweithio’n rhan amser fel Swyddog Ieuenctid yr Urdd yng Ngheredigion.

Bu’n Llysgennad yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yn Gadeirydd Fforwm Ieuenctid Ynys Môn.

Mewn sgwrs gyda golwg360, bu’n trafod rhai o’i gobeithion wrth iddi gymryd yr awenau yn ei rôl newydd, llwyddiant ymgyrch Het i Helpu gyda chymorth neb llai nag Aaron Ramsey, a rhwystredigaeth profiad prifysgol mewn pandemig.

“Dwi’n teimlo’n andros o freintiedig”

“Dwi’n teimlo’n andros o freintiedig,” meddai, wrth drafod ei phenodiad newydd fel llywydd yr Urdd, “mi fydd o’n ffantastig i mi ar gyfer y dyfodol hefyd.

“Mae’n golygu fyddai’n cynrychioli’r aelodau mewn digwyddiadau allanol, mynychu lansiadau, bod yn bresennol yn yr Eisteddfod a bod yn rhan o’r pwyllgor gwaith.”

Dywedodd mai un o’i phrif flaenoriaethau fydd “torri’r stigma bod yr Urdd yn rhywbeth sydd ddim ond i bobl Cymraeg neu bobl sy’n gallu canu neu ddawnsio.

“’Da ni angen meddwl am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o be ’da ni’n ’neud,” meddai, “dwi’n dyst i’r ffaith fod yr Urdd gymaint mwy nag Eisteddfod a chwaraeon yn unig.”

“Mae CV fi’n choc-a-bloc oherwydd yr Urdd!”

Yn ôl Mared Edwards, mae’n anodd gwneud cyfiawnhad a’r llu o gyfleoedd mae’r Urdd wedi ei roi iddi dros y blynyddoedd a dywedodd, “mae CV fi’n choc-a-bloc oherwydd yr Urdd!”

O dripiau tramor i Batagonia, Ffrainc a’r Eidal, i gael bod yn aelod o gast cynhyrchiad Les Misérables a’r profiadau gwerthfawr o swogio yng ngwersylloedd yr Urdd – mae’r rhestr yn hirfaith!

“Drwy hynny, ti’n cael profiadau a chreu cysylltiadau,” meddai, “ac mae o wedi rhoi head start anferth i fi o ran codi hyder a gwneud yn siŵr mod i’n gallu gweithio hefo pobl eraill.

“Mae o’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc gyfarfod pobl ifanc eraill – nid yn unig o Gymru – ond o amgylch y byd a dwi dal mewn cysylltiad hefo pobol ifanc o Batagonia – mae o’n anhygoel!

“Dim ond un enghraifft ydw i a dwi’n nabod llwyth o bobl eraill sydd wedi cael yr un cyfleoedd.

“Felly dwi isio gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o waith yr Urdd yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag dim ond y prif weithgareddau blynyddol.”

“Mae o wedi bod yn gnoc massive”

Ar ôl cyhoeddi bod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni wedi ei ohirio tan fis Mai 2022 yn sgil y pandemig, dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis mai dyma’r cyfnod “mwyaf heriol” yn eu hanes.

“Mae o wedi bod yn gnoc massive,” meddai’r Mared Edwards.

“Ond mae’r Urdd wedi sicrhau eu bod nhw dal yn mynd i fod yna – erbyn fydd pethau’n gwella – fel bod plant a phobl ifanc dal yn gallu cael y cyfleoedd i wneud y petha’ amazing yma.”

Dywedodd ei bod hynod falch o’r modd mae’r Urdd wedi addasu yn ystod y cyfnod a hefyd o’r gefnogaeth anhygoel i ymgyrch ‘Het i Helpu’,

“Nath Dad ffonio fi’n syth ar ôl gweld Aaron Ramsey yn gwisgo’r het – am ei fod o isio un – felly dyna be ges i iddo fo ’Dolig!” meddai.

“A bob tro dwi’n mynd allan i Aber ar y funud, ti’n gweld rhywun yn gwisgo’r het ac mae hynny wedi bod yn boost da i ni!”

“Oedden ni gyd mor ddiniwed”

Mae’r pandemig wedi cael effaith ar sawl agwedd o’i bywyd, gan gynnwys profiad prifysgol, sy’n dra gwahanol i’r disgwyl.

“Mae gen i bedair awr o lectures yr wythnos dros Zoom,” meddai, “ac er enghraifft bore ’ma doedd y wifi ddim yn gweithio, wedyn dyma Teams yn crashio ac felly dwi heb gael darlith.

“Dwi wedi dod yn ôl i Aber – yn syml iawn, achos bod fi’n talu gormod o rent, dwi rhy gynnil i aros adref.

“Yn dod yn ôl ym mis Medi, oedden ni gyd mor ddiniwed i’r holl beth yn meddwl – ‘Duw, ella fydd pethau’n well erbyn y flwyddyn newydd’ – a sbïa arna ni rŵan.”

Mae Mared wrthi’n ymgeisio ar gyfer Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, cam cwbl naturiol iddi ar ôl treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn is-lywydd.

Er hynny, mae ganddi un broblem fach… “dwi’m yn siŵr iawn sut i drïo ennill votes,” meddai, achos dwi’m di cael cyfle i ddod i nabod y freshers!”

“Dwi’r person mwyaf anhrefnus dwi’n nabod!”

Felly, sut mae modd i un person gyflawni cymaint?

“Sa chdi’n meddwl mod i’n berson trefnus,” meddai, “ond dwi’r person mwyaf anhrefnus dwi’n nabod!

“Ond dwi jest yn enjoio gwneud pethau hefo pobol, cael cyfarfodydd a dwi’n licio siarad, heblaw siarad yn gyhoeddus – mae nerves fi’n ddiwaledig…. ond fydd rhaid i fi arfer mwy rŵan!”

Wrth drafod ei gobeithion ar gyfer y dyfodol, dywedodd y byddai wrth ei bodd yn gweithio ym maes theatr.

“Dydw i ddim yn gweld fi’n actio,” meddai, “ond dwi’n licio sgwennu, yr ochr marchnata, a dwi’n licio gweithio hefo plant hefyd.

“Ond ar gyfer flwyddyn nesaf – llywydd UMCA ydi’r bwriad ac os ddim hynny – fydd rhaid i fi ffeindio rhywbeth arall. Gawni weld…!”

Mared Edwards

Mared Edwards o Fôn yw Llywydd newydd yr Urdd

Bydd y fyfyrwraig o Borth Swtan wrth y llyw am y ddwy flynedd nesaf

Yr Urdd yn addasu ac arallgyfeirio i oroesi

Lleu Bleddyn

Wrth i un o wersylloedd yr Urdd baratoi i ofalu am gleifion Covid, Siân Lewis sydd yn edrych yn ôl ar gyfnod ‘mwyaf heriol’ yn hanes y mudiad