Mared Edwards o Fôn yw Llywydd newydd yr Urdd, a bydd hi wrth y llyw am y ddwy flynedd nesaf.
Un o Borth Swtan yw hi, ac mae yng nghanol blwyddyn olaf ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hi’n astudio Cymraeg a Drama, er bod Covid-19 wedi amharu ar ei chwrs.
Bu’n Llysgennad yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yn Gadeirydd Fforwm Ieuenctid Ynys Môn.
Cafodd ei hethol yn is-gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, fforwm ieuenctid cenedlaethol yr Urdd, yn 2018 ac roedd yn gweithio’n rhan amser fel Swyddog Ieuenctid yr Urdd yng Ngheredigion tra ei bod hi yn y brifysgol.
‘Uchelgais’
“Mae bod yn Llywydd yr Urdd wedi bod yn uchelgais gen i ers rhai blynyddoedd bellach, felly dw i’n gwireddu breuddwyd mewn gwirionedd,” meddai Mared Edwards.
“Mae’r Urdd wedi ac yn dal i chwarae rhan hollbwysig yn fy mywyd i, a chynnig cyfleoedd di-ben-draw – o berfformio a chystadlu mewn amryw eisteddfodau a chystadlaethau chwaraeon i brofiadau gwaith amhrisiadwy, gan gynnwys staffio teithiau i Wersylloedd yr Urdd, a thramor i Baris.
“Fel aelod o’r Urdd dw i wedi cael y cyfle i fod yn rhan o gast Les Miserables yn 2015, teithio i’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon a bod yn un o 25 person ifanc o Gymru aeth ar daith arbennig i Batagonia yn 2017. Mae fy nyled i’r Mudiad yn fawr.”
Diolch i’w rhagflaenydd
Mae Mared yn olynu Ethan Williams o’r Beddau ger Pontypridd, ac mae hi wedi diolch iddo.
“Bu iddo fy nghynnwys i mewn amryw benderfyniadau dros y ddwy flynedd diwethaf, sydd wedi hwyluso’r broses o drosglwyddo’r awenau fel Llywydd,” meddai.
“Fedraf i ddim disgwyl i weld beth ddaw dros y ddwy flynedd nesa – dyma gyfle i mi roi yn ôl i’r Urdd.
“Dw i am ganolbwyntio ar sicrhau fod plant a phobl ifanc Cymru yn teimlo perchnogaeth dros yr iaith Gymraeg a’i thraddodiadau drwy ymwneud â’r Urdd, yn ogystal â helpu’r mudiad i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
“Mae amrywiol brosiectau rhyngwladol yr Urdd yn golygu fod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu rhannu gyda’r byd, ac ar drothwy’r canmlwyddiant, mi fydd yn fraint cael helpu ymestyn cyrhaeddiad ac effaith yr holl waith yma.”
Mae Mared wrthi’n ymgeisio ar gyfer swydd Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, cam cwbl naturiol iddi ar ôl treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn is-lywydd.
Wedi hynny, ei gobaith yw cael swydd gyda chwmni theatr fel swyddog cyfranogi er mwyn gallu mynd i ysgolion i gynnal gweithdai.
“Hoffwn ar ran yr Urdd estyn croeso mawr i Mared wrth iddi gychwyn ei rôl newydd fel Llywydd y Mudiad,” meddai Dyfrig Davies, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru.
“Gan ddiolch hefyd i Ethan am ei holl waith yn ystod ei gyfnod fel Llywydd - o hyrwyddo cofrestru i bleidleisio ymysg bobl 16-17 oed, i drefnu gigs a thrafod newid hinsawdd, roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy.
“Mae’r rôl hon yn un gyhoeddus sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc i fod yn rhan weithredol o lunio dyfodol Mudiad yr Urdd. Gyda’r canmlwyddiant o fewn cyrraedd, mae digon i’w gyflawni yn ystod y cyfnod nesaf yma.”