Mae Carwyn Jones, cyn-brif weinidog Cymru, wedi rhybuddio na fydd yna Deyrnas Unedig ymhen 10 mlynedd oni bai bod yna newidiadau iddi – ond fod annibyniaeth yn “ddaeargryn”.

Mae hefyd yn rhybuddio ei bod hi, efallai, yn rhy hwyr i argyhoeddi pobol fod yna opsiynau ar wahân i  annibyniaeth.

“Heb unrhyw fath o newid dw i ddim yn credu y bydd y Deyrnas Unedig yma mewn deng mlynedd,” meddai Carwyn Jones wrth raglen ‘Dros Frecwast’ Radio Cymru.

“Does dim digon o hyblygrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd i sicrhau dyfodol y wladwriaeth.”

‘Daeargryn i unrhyw wlad’

“Mae annibyniaeth yn ddaeargryn i unrhyw wlad, os yw’n dod mewn ffordd rwydd fel refferendwm neu o ganlyniad i ryfel,” meddai.

“I fi, mae yna fodel gwahanol sydd yn cydnabod fod Cymru yn wlad sofren a bod y Deyrnas Unedig yn undeb o wledydd sydd yn aelodau o’r deyrnas hynny yn wirfoddol.

“Nawr, a yw hi [yn] rhy hwyr i ystyried y sefyllfa yna – a yw hi [yn] rhy hwyr i roi’r model yna o flaen pobol yr Alban – mae hynny yn fy mhryderu i, a ‘falle ei bod hi [yn] rhy hwyr.

“Mae rhaid i ni sy’n credu y dylem ni gadw’r pethau gorau o’r Undeb ond sydd eisiau newid yr Undeb i gael e [yn] fwy teg wneud y ddadl hynny ar draws y Deyrnas Gyfunol.”

Mae pôl piniwn diweddar yn dangos bod hanner poblogaeth yr Alban a 23% o boblogaeth Cymru yn cefnogi annibyniaeth.

‘Dydw i ddim o blaid annibyniaeth’

Wrth feirniadu’r modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig  wedi ymateb i’r cynnydd yn y gefnogaeth mewn annibyniaeth, eglura Carwyn Jones nad yw’r drefn bresennol yn gweithio.

“Be’ hoffwn i weld, dydw i ddim o blaid annibyniaeth, ond hoffwn i weld system llawer mwy ffederal, llawer mwy cyfartal yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau, maen nhw’n gallu osgoi’r fformiwla Barnett er enghraifft, ac os ydyn nhw eisiau rhoi arian i Ogledd Iwerddon fel wnaethon nhw a dweud wrth Gymru a’r Alban, ‘So chi’n cael ceiniog’, er bod yna fformiwla i’w ddefnyddio, maen nhw’n gallu.

“Mae rhaid cael system sydd [yn] fwy teg, sydd yn galluogi pobol i wybod beth sy’n digwydd ac wrth gwrs, sicrhau fod yna fwy o gydraddoldeb.”

Yr wythnos ddiwethaf, teithiodd Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, i’r Alban i sôn am “fuddion cydweithredu” mae’r Undeb wedi’u sicrhau wrth fynd i’r afael ag argyfwng y coronafeirws.

Cafodd ei feirniadu gan brif weinidogion Cymru a’r Alban am fynd yn groes i reolau teithio Covid-19.

“Dwi ddim o blaid Teyrnas Gyfunol sydd yn dilyn gweledigaeth Boris Johnson ar hyn o bryd, sef mwy neu lai Lloegr a rhannau wedi eu clymu i mewn i Loegr,” meddai Carwyn Jones.

“Fyddwn i ddim o blaid hynny [Cymru a Lloegr ynghlwm â’i gilydd] o gwbl, a byddai rhaid i ni ystyried beth yn gwmws yw’r dyfodol.

“Dyna pam dw i’n dweud nawr bod rhaid i ni ystyried ffyrdd newydd ymlaen er mwyn osgoi hynny.”

“Dydy’r Deyrnas Unedig ddim yn gallu cario ymlaen fel y mae hi heddiw”

Ond ‘nid annibyniaeth yw’r unig opsiwn’ medd Mark Drakeford