Mae cyfnod clo Ynys Manaw wedi dod i ben, ac mae trigolion yr ynys yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n “ddiolchgar” a “gobeithiol” ynghylch y dyfodol.
Does dim adroddiadau o achosion o’r feirws ar yr ynys ers 17 diwrnod erbyn hyn.
Mae’n golygu y gall ysgolion a busnesau agore eto, a fydd dim rhaid i drigolion yr ynys aros yn eu cartrefi a chymryd camau fel cadw pellter oddi wrth ei gilydd na gwisgo gorchudd ar eu hwynebau.
Cafodd y cyfyngiadau diweddaraf eu cyflwyno ar yr ynys ar Ionawr 7.
Er gwaethaf llacio’r cyfyngiadau, does dim hawl gan bobol deithio i’r ynys o hyd.
“Mae pobol yn teimlo’n eithaf gobeithiol oherwydd does dim Covid, sy’n wych, ond mae hefyd yn dod â phroblemau eraill,” meddai Aileen Broad, dynes 50 oed sy’n byw ar yr ynys, ac sydd heb weld ei mab ers mis Chwefror gan nad yw’n byw ar yr ynys.
“Mae ein ffiniau’n fwy tynn nawr, felly er bod pobol sy’n dweud eu bod nhw ar agor i drigolion Ynys Manaw fynd a dod, pan ydych chi’n dod mae’n rhaid i chi naill ai hunanynysu am 14 diwrnod gyda thri phrawf negyddol neu 21 diwrnod os ydych chi’n dewis peidio cael prawf.
“Realiti hyn yw na all pobol sy’n methu gweithio gartref fynd i ffwrdd, sydd ynddi’i hun yn achosi problemau emosiynol a iechyd meddwl i rai sy’n methu gweld eu teuluoedd.”
Ychwanega fod rhai o drigolion yr ynys yn teimlo eu bod nhw “yn Alcatraz”.
Ond dywed Georgina King, dynes 22 oed o’r ynys, fod “pobol wedi cyffroi i gael mynd yn ôl i drefn” a’u bod nhw’n “ddiolchgar” eu bod nhw’n gallu gwneud hynny.
Dywed eu bod hi a’i chymar wedi dychwelyd i’r ynys i fyw at ei rhieni gan nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i waith yn y diwydiant ffilm a theledu yn ystod y pandemig, gan fynd ati i sefydlu eu cwmni eu hunain.
Ymateb
Mewn anerchiad ar yr ynys ddoe (dydd Llun, Chwefror 1), cadarnhaodd Howard Quayle, prif weinidog yr ynys, na fu unrhyw achosion ers 17 o ddiwrnodau.
“Mae hyn yn gyflawniad rhagorol ac yn achos optimistiaeth go iawn,” meddai.
“Mae’n glir ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad cywir.
“Rhaid i mi ddiolch i’r cyhoedd gwych ym Manaw am wneud y penderfyniadau cywir er fy mod yn gwybod ei bod yn anodd ar adegau.”