Mae dau aelod o’r un teulu, sy’n byw miloedd o filltiroedd ar wahân, wedi dod ynghyd am y tro cyntaf mewn dros bymtheg mlynedd diolch i ddosbarth dysgu Cymraeg ar-lein.
Mae Kris Dobyns yn mynychu dosbarth Cymraeg o’i chartref yn Ontario, Canada, a thiwtor y dosbarth yw ei nai, Owain Talfryn, sy’n byw yn Sweden.
Er nad ydy Kris ac Owain wedi gweld ei gilydd ers 16 mlynedd, mae’r gwersi Cymraeg, sy’n cael eu harwain gan Goleg Cambria a chwmni Popeth Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, wedi dod â’r ddau at ei gilydd.
Symudodd mam Owain, Pegi Talfryn, i Gymru ar ôl dod i yma i’r brifysgol yn yn y saithdegau, gan gyfarfod ei gŵr a magu teulu.
Erbyn hyn, mae Pegi yn rhugl yn y Gymraeg ac mi wnaeth hyn ysbrydoli ei chwaer, Kris, draw yng Nghanada i fynd ati i ddysgu’r iaith yn ystod y pandemig.
“Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi gobaith i fi, gobaith y bydd modd i bawb deithio yn rhwydd unwaith yn rhagor, er mwyn i mi deithio i Gymru gyda fy ngŵr i weld fy chwaer a’i theulu,” meddai Kris Dobyns.
“Dw i’n mawr obeithio y ca’i gyfle i siarad ag eraill yn y Gymraeg a mwynhau clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio. Mae’r gobaith yma yn fy sbarduno i barhau i ddysgu’r iaith.’’
Cyfarfod dysgwyr o bedwar ban byd
Mae dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Kris, ac mae wedi mwynhau cael cwmni dysgwyr o bedwar ban byd.
“Dw i wedi cyfarfod dysgwyr o Ganada, Ffrainc, Lloegr, a Chymru, wrth gwrs,” ychwanegodd.
“Mae Owain yn diwtor gwych, ac mae ei brofiad o ddysgu ieithoedd eraill fel Swedeg, Gaeleg ac Islandeg, o fudd iddo adnabod yr heriau sy’n gallu codi wrth ddysgu iaith newydd.”
Ieithoedd ydi un o brif ddiddordebau Owain Talfryn, sydd yn wreiddiol o’r Rhyl, ond bellach yn byw yn Uppsala, Sweden, ers tair blynedd.
Mae newydd raddio o Brifysgol Uppsala gyda gradd meistr mewn Saesneg.
‘‘Dros y blynyddoedd, dw i wedi dysgu sawl iaith, felly dw i’n gallu uniaethu gyda’r rhai hynny sy’n teimlo’n nerfus wrth fynd ati i ddysgu iaith newydd sbon,” meddai.
“Mae annog dysgwyr i ddal ati yn hollbwysig, yn ogystal â’u hatgoffa fod ganddynt y gallu i gyrraedd eu nod, dros amser.
“Mae gweld Anti Kris yn ymuno â’r dosbarth bob wythnos yn wych, a dw i’n gobeithio y cawn gyfarfod nôl yng Nghymru yn y dyfodol agos!”