Mae Heddlu De Cymru’n wedi rhoi dirwy i 240 o bobl dros y penwythnos am dorri rheolau Covid-19.

Cafodd y dirwyon diweddaraf eu cyhoeddi oriau’n unig ar ôl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gadarnhau y byddai cyfyngiadau Lefel 4 yng Nghymru yn parhau am dair wythnos arall.

“Er ein bod yn llwyr werthfawrogi pa mor heriol fu’r cyfyngiadau hyn, mae’r ffaith eu bod wedi’u hymestyn yn dangos nad nawr yw’r amser i fod yn hunanol,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine.

“Mae achosion o dorri rheolau amlwg fel y rhai a welwyd gan ein swyddogion dros y penwythnos yn peryglu’r cynnydd sydd wedi’i gyflawni gan y mwyafrif llethol sy’n dilyn y rheolau, ac yn rhoi straen ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau.

“Byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan gymunedau, yn cynnal patrolau rhagweithiol ac yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid awdurdodau lleol ar y Timau Gorfodi i sicrhau bod y rhai sy’n torri’r rheolau dro ar ôl tro yn cael eu dirwyo.”

Ymysg y rheiny gafodd ddirwy rhwng dydd Gwener, Ionawr 29 a dydd Sul, Ionawr 31 roedd:

  • 20 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Cathays, gyda rhai wedi teithio yno o Abertawe
  • 9 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Llanbydderi, Bro Morgannwg
  • 9 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Cathays
  • 13 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Ystum Taf
  • 6 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn y Tyllgoed
  • 6 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Nhrelai
  • 5 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Cathays
  • 4 wnaeth ymgasglu mewn tŷ yn y Rhws, Bro Morgannwg
  • 3 unigolion oedd wedi teithio o Swydd Rydychen i Bencoed ar gyfer seremoni grefyddol
  • 8 ar gyfer grŵp o oedolion oedd yn yfed alcohol mewn gerddi cyhoeddus yn Llandaf
  • 20 wnaeth fynychu parti mewn tŷ ym Maerdy, Rhondda
  • 3 ar gyfer grŵp o oedolion bu’n yfed alcohol mewn maes parcio ym Merthyr Tudful
  • 7 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Nhywynyrodyn, Merthyr Tudful
  • 8 ar gyfer grŵp o wahanol aelwydydd yng Nghaerdydd a gafodd eu stopio ym Merthyr Tudful ar eu ffordd adref o Benyfan
  • 6 wnaeth fynychu parti mewn tŷ yn Perthcelyn, Aberpennar
  • 2 ddirwy am deithio nad yw’n hanfodol i Bentref Hamdden Merthyr Tudful o Faerdy, Rhondda Cynnon Taf
  • 7 ar gyfer grŵp a gasglwyd mewn maes parcio yn Penyard, Merthyr Tudful
  • 2 am deithio nad oedd yn hanfodol i Dreherbert
  • 4 o aelwydydd gwahanol mewn un cerbyd ym Mhentref yr Eglwys
  • 1 am drefnu parti pen-blwydd annisgwyl yng Nghlydach, Abertawe
  • 4 beicwyr mynydd yng Nglyn-nedd

Cafodd nifer o ddirywion hefyd eu rhoi i gerbydau yn Rhiwbeina, Pontcanna a Phorthcawl, am deithio nad oedd yn hanfodol.