Mae rhaglen ‘Am Dro’ gafodd ei ddarlledu ar S4C neithiwr wedi sbarduno ymateb tanllyd ar gyfryngau cymdeithasol.

Daw hynny, wedi i un o’r cystadleuwyr, sef Llŷr Alun Jones o Sling, gael ei gyhuddo o bleidleisio’n dactegol er mwyn ennill y wobr o £1,000.

Wrth i rai canmol ei ymdrechion gan ddweud ei fod wedi “chwarae clincar” ac mai gwendid y system farcio sydd ar fai, mae eraill wedi beirniadu ei ymddygiad yn “ddiegwyddor” “anfoesol” “hunanol” a “dan-din”.

Hollti barn

Mae’r rhaglen yn sicr wedi hollti barn ar gyfryngau cymdeithasol wrth i nifer rannu eu hymatebion hallt, drwy honni bod ei ymddygiad wedi mynd yn groes i ysbryd hwyliog y rhaglen.

Fodd bynnag, mae eraill wedi canmol ei ymdrechion, gan ddweud ei fod wedi “chwarae clincar”.

A dywedodd yr actores Lynwen Haf Roberts ei bod yn “joio’r sgandal” – er ei bod wedi synnu bod y mater wedi “esgor a gymaint o sass Cymreig.”

“O’n i isio rhoi un iddyn nhw i gyd!”

“O’n i isio rhoi un pwynt iddyn nhw i gyd – ond o’n i ddim yn cael,” meddai’r cystadleuydd drygionus mewn sgwrs gyda golwg360.

“Doedd o ddim am y contestants,” meddai, “sa fo di gallu bod yn rhywun arall – dwi yn sori i’r tri ohonyn nhw bod nhw wedi gorfod bod hefo fi ond at the end of the day es i arno fo i gael pres.”

Eglura’r artist, sydd hefyd yn perfformio mewn band o’r enw Crinc, bod £1,000 yn lot fawr o bres iddo ar hyn o bryd.

“Dwi ’di colli jobs fi i gyd oherwydd Covid,” meddai, “dwi ’di colli bob job a dwi ar ffyrlo.”

“Mae pobol ’di cymryd o mor siriys

Dywedodd bod rhai o’r negeseuon mae wedi ei dderbyn ers i’r rhaglen gael ei ddarlledu yn “berig” ac “unreal”.

“Dwi yn difaru oherwydd y reaction gan teulu fi,” meddai, “maen nhw’n poeni amdana i fi ond dwi’n fine, dwi’n gallu chwerthin am y peth!”

“Mae pobol ’di cymryd o mor siriys – imajinia be ’sa ni’n gallu gwneud fel gwlad os fysa pobol yn cymryd pethau pwysig yn siriys.

“’Mae ‘na £22biliwn wedi cael ei wario ar Track & Trace system sydd dim yn gweithio – a ma’ pobol yn cwyno amdanaf i’n curo £1,000 ar teli.”

“Wedi ymddwyn o fewn rheolau’r rhaglen”

Mewn ymateb i’r sylw mae’r rhaglen wedi ei dderbyn a’r cwestiwn os yw’r sianel yn bwriadu adolygu’r rheolau’r rhaglen, dywedodd llefarydd ar ran S4C:

“Mae rhaglen Am Dro yn denu ystod eang o bobl i gymryd rhan, gan sicrhau amrywiaeth o bersonoliaethau ym mhob rhaglen.

“Yn yr achos hwn, gallwn gadarnhau fod y cystadleuydd wedi ymddwyn o fewn rheolau’r rhaglen – er efallai nad oedd wedi ymgymeryd ag ysbryd hwyliog y rhaglen fel gweddill y cystadleuwyr.”