Bydd Mas ar y Maes – sy’n bartneriaeth rhwng y gymuned LHDT+, yr Eisteddfod Genedlaethol a Stonewall Cymru – yn nodi Mis Hanes LHDT+ drwy gydol mis Chwefror gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau digidol.

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei chefnogi gan LGBT Consortium a grant Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, yn cynnwys amryw o gomisiynau newydd sbon gan artistiaid a pherfformwyr ifanc o bob rhan o Gymru.

Dyma’r tro cyntaf i Mas ar y Maes gynnal dathliad i nodi Mis Hanes LHDT.

Fe ddaw yn dilyn llwyddiant nifer o sesiynau LHDT+ a gafodd eu cynnal fel rhan o Eisteddfod AmGen dros y misoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o bobl LHDT+, eu hanes a’u hawliau drwy lens Gymreig.

Digwyddiadau

Bydd y rhaglen Cylch: Cofio’n Ôl ar Facebook, gwefan a sianel YouTube yr Eisteddfod yn dechrau am 9 o’r gloch nos yfory (nos Fercher, Chwefror 3), ac edrych yn ôl ar ddyddiau cynnar mudiadau LHDT+ Cymraeg yn ardal Aberystwyth ar ddiwedd y 1980au yng nghwmni Elin Haf Gruffydd Jones, Richard Crowe, Dafydd Frayling a Berwyn Rowlands.

Nos Iau (Chwefror 4) am 9 o’r gloch, bydd premiere Pedr ac Ioan, ffilm fer gan Jonny Reed a Peter Harding sydd wedi’i chomisiynu gan Mas ar y Maes ac sy’n rhoi sylw i’r ffaith fod pobol LHDT+ wedi bod yma erioed, a bod miloedd o straeon sydd heb eu cynnwys mewn llyfrau hanes.

‘Rhaglen greadigol, gyffrous ac addysgiadol’

“Mae’n bleser cydweithio gyda Stonewall Cymru a’r gymuned LHDT+ yma yng Nghymru, ac mae prosiect Mas ar y Maes wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn,” meddai Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod.

“Ry’n ni’n falch iawn o’r cyfle i ddathlu Mis Hanes LDHT+ am y tro cyntaf eleni gyda rhaglen greadigol, gyffrous ac addysgiadol, a gobeithio y bydd pobl yn cael blas ar y sesiynau fel rhan o’r dathliad yma ac yn ystod Eisteddfod AmGen yn gyffredinol dros y misoedd nesaf.”

‘Gwelededd a chydnabyddiaeth’

“Mae Mis Hanes LDHT yn gyfle pwysig i ni edrych yn ôl ar ein hanes ac archwilio’r hyn sydd wedi ein harwain at heddiw,” meddai Iestyn Wyn o Stonewall Cymru.

“Prin iawn yw gwelededd hanes LHDT+ yn gyffredinol drwy’r flwyddyn, a phrin iawn hefyd yw’r gydnabyddiaeth o gyfraniad pobl LHDT+ at hanes Cymru a’r byd.

“Mae Stonewall Cymru yn parhau i fod yn falch o’n partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’n bleser ehangu arlwy Mas ar y Maes drwy adeiladu ar lwyddiant y bartneriaeth.

“Y gobaith eleni yw nodi hanes LHDT Cymreig a dod â chymunedau ynghyd yn ystod cyfnod pan mae unigedd a’r cyfle i gymdeithasu, dysgu a sgwrsio’n brin.”

Bydd manylion y rhaglen yn cael eu cyhoeddi’n wythnosol ar gyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod ac ar-lein, www.eisteddfod.cymru.