Mae prifathrawon wedi bod yn ymateb i alwadau Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, i ohirio arolygon Estyn eto.

Mae hi’n dweud y byddai gohirio arolygon Estyn tan y flwyddyn nesaf yn osgoi’r “baich a’r straen ychwanegol” ar ysgolion.

Cafodd arolygon eu gohirio eleni er mwyn caniatáu i ysgolion baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, cyn cael eu gohirio ymhellach yn sgil y pandemig.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailddechrau eu cynnal ym mis Medi, os yw cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu.

Er mai iechyd a lles athrawon yw’r brif flaenoriaeth, mae rhai o’r farn fod gan Estyn gyfrifoldeb i gynnal arolygon er mwyn cysoni’r gefnogaeth i ysgolion ar lefel genedlaethol.

“Pwysa gwaith trwm sydd ar athrawon”

Mae Dewi Lake, prifathro Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, yn cytuno gyda sylwadau Siân Gwenllïan a’r angen i warchod iechyd a lles athrawon sy’n gweithio o dan amodau anodd iawn.

“Mae rhywun yn anghofio’r pwysau gwaith trwm sydd ar athrawon,” meddai.

“Yn arbennig o safbwynt cyflwyno gwersi byw, paratoi adnoddau dysgu digidol – sy’n cymryd llawer iawn o amser ac ymateb i ymholiadau gan ddisgyblion a rhieni ac ati.

“Yn aml iawn, maen nhw’n gwneud hynny tra hefyd yn balansio e’u cyfrifoldebau teuluol.”

“Edrych ar gysondeb cefnogaeth i ysgolion”

Er hynny, dywed fod cynnal arolygon Estyn yn gallu bod yn fanteisiol iawn i ysgolion hefyd heb darfu ar y gweithlu dysgu.

“Mae gan Estyn rôl i’w chwarae, er mwyn dod yn ymwybodol o arfer da a rhannu hynny er budd pawb arall,” meddai.

“Mae ’na lot o bethau mae Estyn wedi bod yn eu gwneud – ac maen nhw’n gallu gwneud – sydd ddim yn effeithio ar yr athro unigol.

“Dydi’r ymweliadau hefo’r timau rheoli, er enghraifft, ddim yn cyffwrdd ar yr athrawon.

“Ond mae ’na bethau tu hwnt i hynny hefyd.

“Yng Ngwynedd, rydyn ni wedi cael cefnogaeth arbennig o dda gan wasanaethau ysgolion – ond ydi hynny’n wir ym mhob sir?

“Yn sicr, dylai Estyn fod yn edrych ar gysondeb cefnogaeth i ysgolion.”

Ychwanega y dylai Estyn fod yn edrych ar strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru yn ogystal â sut mae ysgolion yn darparu amcan raddau i’w disgyblion eleni.

“Canolbwyntio cant y cant ar ddysgu digidol”

“Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae ysgolion mewn lle ble maen nhw’n canolbwyntio cant y cant ar ddysgu’n ddigidol,” meddai Clive Williams, prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

“Mae symud meddylfryd staff i unrhyw beth arall, er enghraifft, paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd neu fath o hunan werthusiad, yn golygu bod sensitifrwydd.”

Er hynny, dywedodd bod trafodaethau i ddatblygu fframwaith arolygu newydd Estyn yn dangos meddylfryd o “gydweithio gyda’r system yn hytrach na dim ond ei mesur hi.”

Dywedodd ei fod o’r farn y byddai hynny’n tynnu pwysau oddi ar gynnal arolygon yn y dyfodol.

Arolygon Estyn yn “faich a straen ychwanegol” ar ysgolion, medd Siân Gwenllian

Bwriad Llywodraeth Cymru yw ailddechrau arolygon Estyn ym mis Medi os yw cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu
Nifer o bobol ifanc wrth ddesgiau

Cadarnhau mai ysgolion a cholegau fydd yn dyfarnu graddau disgyblion eleni

“Credwn bellach mai dyma’r ffordd orau o ddyfarnu graddau o dan amgylchiadau eithriadol y pandemig,” medd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru