Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn galw am ohirio arolygon Estyn tan y flwyddyn nesaf i osgoi’r “baich a’r straen ychwanegol” ar ysgolion.

Doedd dim arolygon Estyn i fod i gael eu cynnal eleni er mwyn caniatáu i ysgolion baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Cafodd arolygon hefyd eu gohirio oherwydd y pandemig, ond mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailddechrau cynnal arolygon ym mis Medi os yw cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu.

Er nad oes arolygon wedi eu cynnal, mae Estyn wedi parhau i  gefnogi ysgolion ers dechrau’r pandemig wrth iddynt ddarparu cyfuniad o addysg wyneb yn wyneb ac addysg ar-lein.

Oherwydd y cyfyngiadau presennol mae ysgolion yn parhau ar gau yng Nghymru ers y Nadolig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio pennu dyddiad yr wythnos hon ar gyfer dychwelyd plant i’r ysgolion gam wrth gam.

‘Dal fyny ar addysg sydd wedi’i golli’

Fel rheol bydd Estyn yn arolygu ysgolion a darparwyr addysg o leiaf unwaith yn ystod cyfnod o saith mlynedd, ond gallai’r arolygwyr hefyd ymweld â sefydliadau yn ddirybudd.

Mae Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, yn galw am ohirio’r arolygon i ganiatáu i ysgolion ganolbwyntio ar y gwaith sydd wedi’i golli.

“Mae gan ysgolion lot fawr o waith i ’neud i helpu plant a phobl ifanc i ddal fyny efo’r holl addysg maen nhw wedi’i golli,” meddai.

“Y peth olaf maen nhw eisiau ydy’r baich a’r straen ychwanegol sydd yn dod yn anorfod efo arolygiad estyn.

“Dwi’n meddwl y peth teg a synhwyrol i’w wneud ydy i beidio ailddechrau’r holl broses.”