Mae uwch nyrs wedi cyfaddef bod y gofal a gafodd ei roi i breswylydd oedrannus a fu farw mewn cartref gofal ar ôl cael ei esgeuluso yn ansafonol.

Bu farw Stanley Bradford, 76, dri mis ar ôl symud i Gartref Brithdir yn Nhredegar Newydd yn 2005.

Dywedodd teulu’r cyn-löwr ei fod wedi’i adael yn edrych fel carcharor rhyfel ar ôl dioddef o ddiffyg hylif, diffyg maeth a briwiau pwyso.

Mae cwest yng Nghasnewydd yn clywed tystiolaeth ar hyn o bryd i farwolaethau saith o drigolion y cartref gofal yn Nhredegar Newydd rhwng 2003 a 2005.

‘Wedi’i daflu i mewn i’r pen dwfn’

Dywedodd Philip McCaffrey fod ei wybodaeth am ofalu am yr henoed yn “eithriadol o gyfyngedig” a dywedodd ei fod wedi’i “daflu i mewn i’r pen dwfn” pan ddechreuodd yno.

“Mae esgeulus yn air cryf ond rwy’n credu ein bod ni’n agos i fod yn esgeulus,” meddai.

Cymhwysodd fel nyrs yn 1960 ond treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn rheoli ysbytai nes iddo ymddeol ganol y 1990au.

Ar ôl i berchennog y cartref, Dr Prana Das, ofyn iddo reoli nifer o gartrefi, daeth allan o ymddeoliad yn 2002, gan weithio am gyfnod byr yng Nghartref Nyrsio Brithdir.

“Roeddwn bob amser yn gwneud fy ngorau glas i ddarparu’r gofal gorau posibl i bob preswylydd ond yn amlwg, oherwydd y pwysau yr oeddem oddi tano, doeddwn i ddim yn gallu cyflawni fy nod.

“Doedd hi erioed yn fwriad peidio darparu’r gofal gorau posib i’r preswylwyr.”

‘Siomi trigolion’

Clywodd y cwest fod Philip McCaffrey yn “anhapus iawn” gyda safon y gofal yn y cartref.

“Roedd yna adegau pan oeddwn i’n gwybod fy mod i’n siomi’r trigolion,” meddai.

“Roedd y sefyllfa’n heriol iawn lle nad oeddech chi’n gwybod beth i’w wneud.

“Rwy’n credu ei fod yn fethiant systematig a bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae ynddo.

“Roedd y sefyllfa staffio yn enbyd, doedd dim modd i ni fod mewn dau le ar yr un pryd.

“Roedd yn sefyllfa ofnadwy heb staff, ac yn waeth na hynny, roeddwn i’n aml ar fy mhen fy hun yn y cartref pan ddylai fod dwy nyrs gofrestredig ar ddyletswydd.

“Ymwelodd Arolygiaeth Gofal Cymru â’r cartref yn aml, ac roeddent yn gwybod beth oedd y sefyllfa,” meddai pan gafodd ei holi pam na roddodd e wybod i’r awdurdodau am ei bryderon.

“Roedden nhw’n sicr yn gwybod fy mod i’n gweithio ar fy mhen fy hun gryn dipyn o’r amser.”

Marwolaethau

Bydd y cwest, a fydd yn para tan fis Mawrth, hefyd yn edrych ar farwolaethau cyn-drigolion Cartref Nyrsio Brithdir:

  • Stanley James, 89
  • June Hamer, 71
  • Edith Evans, 85
  • Evelyn Jones, 87
  • William Hickman, 71

Bydd gwrandawiad i farwolaeth seithfed preswylydd, Matthew Higgins, 86, yn cael ei gynnal ar ôl i’r chwech arall ddod i ben.

Cefndir

Cafodd Cartref Brithdir ei gau yn 2006, ond bu farw’r perchennog Dr Prana Das cyn sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o fethiannau gofal.

Roedd e’n wynebu sawl cyhuddiad yn ymwneud â methiannau mewn gofal cyn iddo ddioddef anaf i’r ymennydd yn ystod lladrad yn ei gartref yn 2012, a chafodd ei ddatgan yn feddygol anaddas i sefyll ei brawf.

Bu farw fis Ionawr y llynedd yn 73 oed, ond mae disgwyl i’w weddw a chyd-berchennog y cartref, Dr Nishebita Das, roi tystiolaeth i’r cwest.

Cwest yn clywed bod menyw wedi marw ar ôl datblygu briwiau pwyso yn ei gwely mewn cartref nyrsio

Cafodd menyw â dementia ei hesgeuluso gan staff cartref nyrsio yn y misoedd cyn ei marwolaeth, mae cwest wedi clywed

Cyn-nyrs wedi cyfaddef dangos “diffyg gofal dychrynllyd” i breswylydd cartref gofal cyn ei farwolaeth

Cwest yn ymchwilio i farwolaethau sawl preswylydd yng Nghartref Gofal Brithdir