Mae honiadau bod carcharorion yng ngharchar y Berwyn, ail garchar mwyaf Ewrop, yn cael “problem fawr” wrth iddyn nhw siarad Cymraeg yno.

Ddydd Sul (Ionawr 31), adroddodd golwg360, fod Undod a rhwydwaith y Prisoner Solidarity Network yn cydweithio er mwyn rhoi terfyn ar erledigaeth yn erbyn siaradwyr Cymraeg yng ngharchar y Berwyn yn y gogledd.

Mae adroddiadau gan sawl carcharor iddyn nhw gael rhybudd y bydden nhw’n colli eu breintiau am siarad Cymraeg yn y carchar, bod oedi o fis a mwy wrth dderbyn post yn y Gymraeg a bod siaradwyr Cymru yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd yno.

Ers i Nick Leader gael ei benodi’n Llywodraethwr ar y carchar yn 2019, y Berwyn sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn trais a hunan-niweidio o blith holl garchardai Cymru.

“Hiliol tuag at siaradwyr Cymraeg a phobol ddu”

“Rydyn ni’n cael ein gwahanu yma,” meddai Rhodri ab Eilian, carcharor yn y Berwyn.

“Mae pobl yn cael rhybuddion IEP am siarad Cymraeg. Mae’n rhaid i bobl aros mis i gael llythyrau yn Gymraeg.

“Mae staff y carchar yn hiliol tuag at siaradwyr Cymraeg a phobl ddu. Maen nhw bob amser yn cwestiynu pam fy mod i’n siarad Cymraeg.

“Os ydw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun maen nhw’n o gwmpas y lle fel piwiaid ac yn eich annog i beidio â siarad Cymraeg.

“Mae CEM Stoke Heath yn Swydd Amwythig yn fwy cartrefol i siaradwyr Cymraeg na CEM Berwyn.”

Rhodri ab Eilian
Rhodri ab Eilian (Llun gan y teulu)

“Gwneud dim synnwyr”

Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd Heledd Williams, chwaer Rhodri ab Eilian, sy’n ymgyrchu ag Undod ei bod hi’n “meddwl mai’r prif beth yw eu bod nhw’n gwahanu siaradwyr Cymraeg”.

“Pam dydyn nhw ddim ar yr un wing efo’i gilydd fel maen nhw yn Stoke Heath a charchardai eraill?” meddai.

“Pam eu bod nhw’n cael eu hynysu fel hyn? Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr.

“Am ei fod o’n garchar newydd, dw i ond yn gallu dyfalu eu bod nhw eisiau creu diwylliant lle mae’r carchar mewn rheolaeth a’u bod ddim eisiau i unrhyw un o’r cymunedau gwahanol gael autonomy.”

“Annerbyniol”

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg ddoe (dydd Llun, Chwefror 1), dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan fod y sefyllfa yn “annerbyniol”.

“Dydyn ni ddim yn hapus o gwbl i glywed nad ydy pobl yn gallu siarad Cymraeg mewn unrhyw le ac yn sicr mewn carchar sydd yng Nghymru,” meddai.

“Mae hwn yn rhywbeth sydd yn hollol annerbyniol ac mi fyddwn ni’n edrych mewn i’r sefyllfa os yw hynny’n briodol.”

“Gorchmynion”

“Mae gennym ni orchmynion bod siaradwyr Cymraeg yng Ngharchar y Berwyn yn cael bod ar yr un wing, fel mewn carchardai eraill, eu bod yn derbyn eu llythyrau’n brydlon, a’u bod yn cael mynediad i gyfryngau Cymraeg,” meddai Siwan Clark o Undod wrth golwg360.

“Mae yno broblem cadw staff Cymraeg yn y Berwyn, ac o ganlyniad maen nhw’n amheus o garcharorion sy’n siarad yr iaith… poeni eu bod nhw’n mynd i ddechrau gangs ac ati.

“Ond dim problem y carcharorion ydi hynny.

“Byddwn i’n gofyn i’r Llywodraeth stopio cymryd y carchar ar ei air, maen nhw wedi bod yn gweithredu fel hyn yr holl amser a does dim budd i’r carcharorion.

“Mae carcharorion sy’n siarad Cymraeg yn cael eu herlid gan y staff, ac mae hi’n amlwg bod yno broblem fawr yno.

“Mae’r sefyllfa yn ngharchar y Berwyn yn drychinebus o wael.”