Mae’r ymchwilydd Dr Dilys Jones – sy’n brofiadol ym maes cenhedloedd lleiafrifol, hunaniaeth a ffilm ers dros ugain mlynedd – yn dweud na fyddai hi’n “gwybod lle i ddechrau” ar ymchwil heb adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae’n dweud bod archif sgrin a sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn ffynhonnell wybodaeth hollbwysig iddi, sydd wedi chwarae rhan annatod wrth iddi allu cynnal ei hymchwil.

Wrth siarad â golwg360, bu’n trafod gwerth a phwysigrwydd y sefydliad, ei pherthynas agos gyda’r staff a phwysigrwydd gweithredu nawr i achub y llyfrgell er lles cenedlaethau i ddod.

Daw ei sylwadau wrth i’r pwysau gynyddu ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth a chyllid teg i’r Llyfrgell Genedlaethol, sydd wedi dioddef blynyddoedd o “dangyllido systematig”.

“Amhosib I mi gynnal fy ymchwil hebddi”

Cychwynnodd Dr Dilys Jones ymddiddori ym maes ffilm ac hunaniaeth wrth astudio yn y brifysgol yn Llanbed.

Fodd bynnag, eglura mai ers sefydlu’r archif sgrin a sain yn y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n agos i’w chartref yn Aberystwyth, y datblygodd ei diddordeb ymhellach.

“Mae miloedd o glipiau a gweithgareddau yn yr archif sgrin a sain,” meddai.

“Yng Nghymru, does dim silff gynhwysfawr ma’s yna mewn unrhyw siop sy’n gwerthu ffilmiau.

“Mae prynu llyfrau Cymraeg a barddoniaeth Gymraeg llawer haws na phrynu clipiau ffilm.

“Felly mi fyddai wedi bod yn amhosib i mi gynnal fy ymchwil i hebddi – fyddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau!”

Eglura’r ymchwilydd ei bod wedi treulio cyfnodau sylweddol o amser yn ymchwilio yn “gyson ffyrnig” yn yr archif sgrin a sain.

“Cerdyn darllenydd yn hollbwysig i mi”

Mae ei cherdyn darllenydd parhaol yn rhywbeth y mae Dr Dilys Jones yn falch iawn ohono, yn ogystal â’r ymdeimlad o berthyn sy’n deillio o hynny.

“Mae’r cerdyn darllenydd yn hollbwysig i mi,” meddai,

“Mae’n fy ngalluogi i gael profiad fyddai ymwelwyr y Llyfrgell ddim yn dod i wybod amdanyn nhw.

“Bob profiad cyntaf rwy’n cael, rwy’ mo’yn rhannu’r profiad ymhellach a symud pethau ymlaen, yn fy ffordd i fy hunan.

“Felly, byddai’r ymwelydd yn gallu mynd i’r sinema fach yn y drwm, bydden nhw’n gallu mynd i fwyta yno ac yn gallu mynd i’r oriel gyhoeddi, i arddangosfa a’r siop.

“Ond y profiad, ymhellach, yw mynd i weithio mewn archif.”

“Allwn i byth gael dyfodol hebddi”

“Ni’n sôn am ugain mlynedd o ddod i adnabod y llyfrgell fel mae hi – er bod rhai adrannau yn fwy ifanc nag eraill,” meddai wrth drafod ei phryderon gwirioneddol ynghylch dyfodol ansicr y Llyfrgell Genedlaethol a’r posibilrwydd o doriadau pellach.

“Ond mae pob adran fel maneg, ac mae’n rhaid cael pum bys i faneg – neith un bys ddim gwneud y tro.

“Allwn i byth gael dyfodol hebddi.”

‘Rwy’n poeni am y staff’

Dros y blynyddoedd, meddai, mae hi wedi meithrin perthynas agos gyda nifer o staff y Llyfrgell, ac mae hi’n ystyried nifer ohonyn nhw yn ffrindiau erbyn hyn.

“Rydych chi’n nabod nhw – o’r ddesg gyntaf wrth fynd drwy’r drws, i’r porthorion, i’r rhai yn y ffreutur ble mae modd cael coffi a the.

“Rwy’n hynod falch fy mod wedi meithrin perthynas agos gyda nhw i gyd.”

Dywed ei bod yn poeni ynglŷn â dyfodol a swyddi’r staff ifanc sydd ar drothwy eu gyrfa.

“Mae gan bobol ifanc gyfrifoldebau teuluol ifanc,” meddai.

“Ac maen nhw wedi dechrau tyfu a meithrin i mewn i’r llyfrgell; rwy’n pryderu os collwn ni rheini.”

“Dim modd edrych yn ôl”

Mae’r ymchwilydd, sydd wedi elwa cymaint o’r cyfleoedd yn y Llyfrgell, yn grediniol bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Byddai rhaid ei hachub er mwyn i bob cenhedlaeth, yn wyrion a gor-wyrion, ddod i’w galluogi i ddod i nabod eu gwlad.

“Mae’n rhaid aros cenhedlaeth neu ddwy, fel arfer, cyn edrych dros hanes.

“Os gollwn ni’r Llyfrgell, fydd dim modd edrych yn ôl dros y cyfnod hwn hyd yn oed, er mwyn gweld be’ gafodd ei gynhyrchu, yn gelf neu’n farddoniaeth – mae o yna i ni allu pori ynddo fo.”

Dywed fod rhaid i’r undebau “fod ar ddihun dros eu haelodau” a sicrhau nad ydyn nhw yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle dydyn nhw ddim yn sylweddoli beth sydd ganddyn nhw tan ei bod hi’n rhy hwyr.

Mae’r Senedd yn trafod cynnig Plaid Cymru i “achub” y Llyfrgell Genedlaethol heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 2).

Y Llyfrgell Genedlaethol wedi dioddef o ’dangyllido systematig’ medd AoS ac AS Ceredigion

“Mae’r Llyfrgell yn cadw ein hanes cenedlaethol yn fyw ac yn hygyrch i’r byd ac ni ddylid peryglu’r gwaith hwnnw,” medd Elin Jones a Ben Lake

“Rhaid inni beidio anwybyddu ein hunain”

Dros 1,000 o lofnodion mewn 24 awr ar ddeiseb yn galw am “gyllid teg” i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Swyddi yn y fantol: Llyfrgell Genedlaethol i lansio ymgynghoriad

Golwg360 yn deall bod y sefydliad gam yn nes at waredu 30 o swyddi llawn amser