Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi dioddef o “dangyllido systematig” yn ystod y blynyddoedd diwethaf, meddai Elin Jones AoS a Ben Lake AS.

Daw hyn wedi i’r Llyfrgell ddechrau ymgynghoriad i’r posibilrwydd o dorri swyddi.

Mae tua 225 yn gweithio i’r Llyfrgell, ac mae’r sefydliad eisoes wedi rhybuddio y byddai’n rhaid cwtogi 30 o swyddi cyfwerth ag amser llawn dros y 12 mis nesa’ er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

Mae deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i’r Llyfrgell Genedlaethol, wedi croesi’r trothwy o 10,000 o lofnodion.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi dioddef yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i dangyllido systematig, tymor hir ac mae angen mynd i’r afael â hyn ar frys,” meddai Elin Jones a Ben Lake mewn datganiad ar y cyd.

“Mae colli 30 o swydd yn ergyd drom i ardal Aberystwyth, ond mae gweld y gefnogaeth genedlaethol i’r ddeiseb a gyflwynwyd i gefnogi’r Llyfrgell, sydd wedi croesi’r trothwy 10,000 mewn cyfnod byr iawn o amser, yn dangos gwerth y sefydliad i’r genedl gyfan.

“Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol ein cefnogaeth lawn a byddwn yn brwydro i’r eithaf i sicrhau ei dyfodol.”

“Anwybyddu pryderon”

Mae Sian Gwenllian AS, llefarydd Plaid Cymru dros Ddiwylliant, hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei chyllideb ddiweddaraf a neilltuo cyllid priodol i ddiogelu Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu pryderon ariannol Llyfrgell Genedlaethol Cymru – mae hyn yn glir o’r diffyg cyllid a neilltuwyd ar gyfer y Llyfrgell yn y gyllideb ddiweddaraf.

“Mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant wedi methu â derbyn argymhellion i gynyddu’r cyllid.

“Ar ran Plaid Cymru, rwyf wedi herio’r Llywodraeth i ddarparu cefnogaeth ddigonol i’r Llyfrgell ar dri achlysur gwahanol yn y Senedd yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, ond heb unrhyw gail.

“Mae’r Llyfrgell yn rhan sylfaenol o fywyd diwylliannol, addysgol a hanesyddol Cymru ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru neilltuo cyllid priodol ar frys er mwyn ei diogelu.”

‘Hollol anghynaladwy’

Amlygwyd sefyllfa ariannol y Llyfrgell Genedlaethol mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn hydref 2020.

Ar y pryd disgrifiodd Prif Weithredwr y Llyfrgell, Pedr ap Llwyd, sefyllfa ariannol y Llyfrgell Genedlaethol yn “hollol anghynaladwy”.

“Ar y pryd fe wnaethon ni alw ar Dafydd Ellis Thomas, y Dirprwy Weinidog, i fynd i’r afael â’r diffyg cyllido hwn yng nghyllideb eleni,” meddai Elin Jones AoS a Ben Lake AS.

“Nawr bod y gyllideb honno wedi’i chyhoeddi, gwelwn nad yw’n fwriad gan Lywodraeth Cymru Llafur-Dem Rhydd gynyddu cyllid y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae gweithlu’r Llyfrgell eisoes wedi cael ei dorri yn ôl i’r asgwrn a byddai colli rhagor o swyddi yn fygythiad clir i’r gwaith hanfodol y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ei wneud yn ddyddiol ar ran y genedl.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Bydd y ddeiseb hon nawr yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar gyfer dadl yn y Senedd a bydd yn cael ystyriaeth lawn ac ymateb ffurfiol. Dyma’r broses arferol i’r Senedd ei hystyried o dan ei rheolau sefydlog.

“Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i’r sector diwylliant a threftadaeth ac mae sôn am unrhyw golledion swyddi yn bryder gwirioneddol. Rydym wedi gallu diogelu cymorth grant y Llyfrgell rhag unrhyw ostyngiadau ond oherwydd pwysau cyllidebol digynsail ni fu’n bosibl cynyddu’r cymorth refeniw.

“Mater i’r Llyfrgell yw gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gall weithredu’n effeithiol o fewn y cyllidebau sydd ar gael.”

Swyddi yn y fantol: Llyfrgell Genedlaethol i lansio ymgynghoriad

Golwg360 yn deall bod y sefydliad gam yn nes at waredu 30 o swyddi llawn amser