Mae 270,833 o bobol yng Nghymru bellach wedi eu brechu yn erbyn Covid-19.

Fodd bynnag mae’r ffigyrau diweddaraf ar hyn o bryd yn dangos mai dim ond 47% o bobol dros 80 oed sydd wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi targed i frechu 70% o bobol dros 80 oed erbyn nos Sul (Ionawr 24).

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn ddydd Llun, Ionawr 25, fod y Llywodraeth yn parhau i wneud cynnydd da o ran brechu pobol yng Nghymru.

“Does gennym ni ddim yr holl ddata yn ôl o’r canolfannau brechu a’r meddygfeydd ledled Cymru i ddangos a ydyn ni wedi cyrraedd 70% eto,” meddai’r Gweinidog Iechyd.

“Rydym wedi brechu 8.7% o’r boblogaeth mewn saith wythnos yn unig. Brechu yw ein prif flaenoriaeth,” meddai.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobol yn cael y brechlyn cyn gynted â phosib.

Cyfeiriodd, hefyd, at graff gan LBC (isod), sy’n dangos bod Cymru bellach yn gydradd â Lloegr o ran ei chyfradd brechu.

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd fod 70% o weithwyr cartrefi gofal wedi eu brechu, a’i fod yn gobeithio bydd y data llawn ar gael erbyn dydd Mercher, Ionawr 27.

Eira wedi effeithio’r rhaglen frechu

Cafodd 6,295 o bobol eu brechu ddydd Sul, Ionawr 24, o’i gymharu â 23,991 y diwrnod blaenorol.

Eglurodd Vaughan Gething mai’r eira ar draws y wlad oedd ar fai am hyn.

“Dros y penwythnos, gwelsom eira sylweddol ar draws rhannau helaeth o Gymru, ac mae hyn wedi cael effaith ar y rhaglen frechu,” meddai.

“Cafodd pedair canolfan frechu eu cau yn ardal Cwm Taf ddoe a chaewyd un ganolfan frechu dorfol yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe am resymau diogelwch.

“Bu’n rhaid i nifer o feddygfeydd meddygon teulu ledled Cymru hefyd ohirio clinigau tan heddiw.

“Penderfynodd rhai pobol hefyd, yn ddealladwy, nad oeddent am fynd allan yn yr eira ar gyfer eu hapwyntiadau ddoe.

“Rwyf am ei gwneud yn glir na fydd unrhyw frechlyn yn cael ei wastraffu.”

Dywedodd Mr Gething ei fod yn credu bod Cymru ar y trywydd iawn i frechu’r pedwar prif grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror ac y bydd Llywodraeth Cymru, yn ddibynnol ar gyflenwad, yn brechu mwy na 20,000 o bobol bob dydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu o hyn allan, gan gyhoeddi faint o frechlynnau a dderbynnir, faint sydd wedi eu brechu, a faint o frechlynnau sydd ddim yn addas i’w defnyddio yng Nghymru.

“Nid yw’r dull aros-i-weld hwn yn cynnig dim”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AoS ei bod yn “bwysig iawn nad ydym yn gweld unrhyw lacio.”

“P’un a yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y targed ai peidio, bydd llawer o bobol yng Nghymru yn y grŵp blaenoriaeth uchaf fydd am gael eu brechu eto.

“Bydd angen i ni ddefnyddio gwersi’r dyddiau diwethaf, yn y system sydd wedi’i datblygu, i sicrhau ein bod yn cyrraedd 100% ar gyfer y grwpiau blaenoriaethau hynny a gweithio i’w diwallu.”

Beirniaddu’r oedi o ran y data wnaeth y llefarydd iechyd newydd y Ceidwadwyr. Dywedodd Angela Burns AoS:

“Rwy’n credu y gallwn ni i gyd dderbyn y bydd yr eira a’r rhew a effeithiodd ar rannau helaeth o Gymru ddoe yn debygol o fod wedi cael effaith ganlyniadol gyda nifer y brechiadau a ddigwyddodd, ond nid yw’r oedi hwn wrth adrodd yn caniatáu i ni weld sut mae’r targedau’n cael eu cyrraedd.

“Ac rwyf am fod yn gwbl glir ein bod am iddynt gael eu cyrraedd, rydym am iddynt gael eu curo, rydym am ragori arnynt – ond rhaid datrys y problemau hyn yn y system sy’n achosi oedi gyda’r data.

“Yna, pan fydd gennym ddata cywir, diweddar – a allwn ni a phawb arall yng Nghymru gael rhywfaint o sicrwydd bod y rhaglen yn rhedeg yn effeithiol, oherwydd nid yw’r dull aros-i-weld hwn yn cynnig dim.”

Ffigurau diweddaraf

Cofnodwyd 872 o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn ystod y 24 awr ddiwethaf, gan fynd â chyfanswm nifer yr achosion i 188,583.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 23 o bobol wedi marw o’r feriws yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, gan fynd â’r cyfanswm ers dechrau’r pandemig i 4,553.

Cymru’n ‘brechu mwy nag mae’r ffigurau swyddogol yn ei ddangos’

Y Prif Weinidog yn ‘ffyddiog’ o gyrraedd targed o frechu 70% o bobl dros 80 a thrigolion cartrefi gofal erbyn diwedd yfory, dydd Sul