Y Cymro James Harris, bowliwr cyflym Middlesex a chyn-fowliwr Morgannwg, yw cadeirydd newydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

Mae wedi’i ethol gan y siroedd proffesiynol a thîm merched Lloegr i olynu Daryl Mitchell, a bydd e’n dechrau yn y rôl ar Chwefror 25.

Mae’r Cymro wedi cynrychioli Middlesex ar bwyllgor y Gymdeithas ers 2017, ac fe fu’n is-gadeirydd eleni.

Bydd e’n aros yn y rôl tan 2023, pan fydd cyfle i’w ail-ethol am ddwy flynedd arall.

Gyrfa

Ar ôl dechrau ei yrfa gyda Morgannwg yn 2007, aeth yn ei flaen i Middlesex yn 2013 a Chaint yn 2017.

Mae e wedi cipio 630 o wicedi ac wedi sgorio 4,443 o rediadau mewn 270 o gemau.

“Mae’n anrhydedd fawr cael bod yn bymthegfed cadeirydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol a dw i’n ostyngedig ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth dw i wedi’i chael gan Bwyllgor y Chwaraewyr,” meddai.

“Mae Daryl Mitchell wedi gwneud gwaith gwych a hoffwn ddiolch iddo f ear ran y chwaraewyr am bopeth mae e wedi’i gyflawni yn gadeirydd Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael dechrau yn y rôl, gan fynd i’r afael â’r heriau presennol mae’r gêm yn eu hwynebu, gan sicrhau bod Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn aros ar flaen y gad fel cymdeithas chwaraewyr er lles ein holl aelodau cyfredol a chyn-aelodau.”