Mae Clwb pel-droed Chelsea wedi diswyddo ei brif hyfforddwr Frank Lampard ar ôl 18 mis wrth y llyw.

Mae’n gadael gyda’r clwb yn nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair ar ôl colli yn erbyn Caerlyr yr wythnos ddiwethaf, ac ar ôl ennill unwaith yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf.

Ei gêm olaf wrth y llyw oedd buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Luton ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA.

Cafodd Frank Lampard ei benodi ar gytundeb tair blynedd ar ôl i Maurizio Sarri gael ei ddiswyddo ym mis Gorffennaf 2019.

Fe’u harweiniodd i’r pedwerydd safle a rownd derfynol Cwpan yr FA yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.

Mewn datganiad, dywedodd Chelsea: “Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn, ac nid yw’n un y mae’r perchennog a’r bwrdd wedi’i gymryd yn ysgafn.

“Rydym yn ddiolchgar i Frank am yr hyn y mae wedi’i gyflawni yn ei gyfnod fel prif hyfforddwr y clwb.

“Fodd bynnag, nid yw canlyniadau a pherfformiadau diweddar wedi bodloni disgwyliadau’r clwb, gan adael y clwb yng nghanol y gynghrair heb unrhyw lwybr clir at welliant parhaus.”

Dywedodd y perchennog Roman Abramovich fod statws Lampard fel “eicon pwysig” o’r clwb yn “parhau” er iddo gael ei ddiswyddo.

“Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn i’r clwb, yn bennaf oherwydd bod gennyf berthynas bersonol ragorol â Frank ac mae gennyf y parch mwyaf tuag ato,” meddai Roman Abramovich.

Tomos Tuchel yn debygol o gael ei benodi fel rheolwr newydd

Mae adroddiadau’n awgrymu mai cyn rheolwr Paris Saint Germain, Tomos Tuchel, yw’r ymgeisydd sydd fwyaf tebygol o gymryd yr awenau yn dilyn diswyddo Frank Lampard.

Enillodd y gŵr 47 oed ddwy gynghrair yn olynol gyda Paris Saint Germain yn Ffrainc, ond nid oedd hynny’n ddigon i fodloni perchnogion uchelgeisiol y clwb, oedd wedi penodi Mauricio Pochettino i gymryd ei le.

Cyn cael ei benodi’n rheolwr Paris Saint Germain, gwnaeth Tuchel argraff gyda Borussia Dortmund, ar ôl dechrau ei yrfa reoli gydag Augsburg ac yna Mainz yn y Bundesliga (uwch gynghrair yr Almaen).