Bydd tîm pêl-droed Casnewydd heb eu capten Joss Labadie wrth groesawu Caerliwelydd i Rodney Parade heno (nos Fawrth, Ionawr 26).

Mae’r chwaraewr canol cae 30 oed wedi’i wahardd am dair gêm yn dilyn cerdyn coch yn ystod hanner cynta’r gêm yn erbyn Oldham dros y penwythnos.

Ond daw’r gwaharddiad wrth i Anthony Hartigan gyrraedd y clwb ar fenthyg o AFC Wimbledon tan ddiwedd y tymor, ac fe allai’r chwaraewr 20 oed gymryd ei le yn y tîm ar unwaith.

Mae Luke Gambin a Jake Scrimshaw yn cadw eu llefydd ar ôl rhwydo yn erbyn Oldham, ond mae Josh Sheehan wedi’i wahardd.

Hon fydd gêm gyntaf Caerliwelydd ers 24 o ddiwrnodau oherwydd y coronafeirws a’r tywydd – daeth eu gêm ddiwethaf ar Ionawr 2 pan wnaethon nhw guro Walsall o 2-0, ac maen nhw wedi gostwng i’r pedwerydd safle yn yr Ail Adran, bedwar pwynt y tu ôl i Gaergrawnt ar y brig ond mae ganddyn nhw bedair gêm wrth gefn.

Mae Casnewydd yn drydydd, ddau bwynt oddi ar y brig.

Gallai Offrande Zanzala, Cedwyn Scott a Morgan Feeney chwarae yn eu gêm gyntaf i’r clwb heno, tra bod yr asgellwr Ethan Walker wedi dychwelyd o gyfnod ar fenthyg yn Preston.