Mae tîm pêl-droed Wrecsam yn wynebu gornest anodd heno (nos Fawrth, Ionawr 26), wrth iddyn nhw groesawu Halifax i’r Cae Ras.

Mae’r ymwelwyr yn y chweched safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl rhediad rhagorol yn ddiweddar, gyda thair buddugoliaeth o’r bron.

Dechreuon nhw’r tymor gyda buddugoliaeth cyn mynd naw gêm heb fuddugoliaeth, ond fe wnaethon nhw daro’n ôl gyda buddugoliaethau swmpus dros Barnet (5-2) a Weymouth (5-1) sydd wedi gwyrdroi eu tymor.

Maen nhw wedi sgorio ym mhob un o’u 11 gêm ddiwethaf, ond dydyn nhw heb gadw llechen lân ers 17 o gemau, ac mae gan Wrecsam yr ail record amddiffynnol orau yn y gynghrair.

Gemau’r gorffennol

Fe wnaeth Wrecsam guro Halifax ar y Cae Ras y tymor diwethaf, a hynny pan oedd yr ymwelwyr ar frig yr adran.

Aeth yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn gyda cherdyn coch i Jake Lawlor, ac fe wnaeth Wrecsam fanteisio ar hynny wrth i Paul Rutherford fwydo’r bêl i Mark Harris gipio’r gôl fuddugol.

Hon oedd ail golled Halifax mewn naw ymweliad â gogledd Cymru.

Dim ond mewn tair o’r naw gêm diwethaf rhwng y ddau dîm mae Wrecsam wedi sgorio gôl.

Brwydr rhwng y ddau Luke yng nghanol y cae

Bydd yr ornest yn gweld Luke Young (Wrecsam) a Luke Summerfield (Halifax) yn herio’i gilydd ar ôl ffurfio partneriaeth gadarn yng nghanol y cae i Wrecsam.

Gall y naill Luke a’r llall achosi problemau o ganol y cae, a gallai’r ornest honno fod yn un i gipio rheolaeth o’r gêm.