Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y gystadleuaeth am lefydd o fewn y garfan yn gyrru perfformiadau ei dîm.
Daw ei sylwadau wrth i’r Elyrch groesawu Brentford i Stadiwm Liberty nos fory (nos Fercher, Ionawr 27).
Mae ei dîm yn ddi-guro mewn saith gêm, a heb golli yn eu deg gêm diwethaf ar eu tomen eu hunain.
Ar ôl colli Morgan Gibbs-White, Kasey Palmer a Viktor Gyökeres i’w rhiant-glybiau yn dilyn cyfnodau ar fenthyg yn Abertawe, mae’r Elyrch bellach wedi denu’r golwr Ben Hamer, y chwaraewr canol cae profiadol Conor Hourihane a’r ymosodwr Jordan Morris.
Bydd hynny’n cryfhau’r gystadleuaeth am lefydd yn y tîm, yn ôl rheolwr.
“Dw i’n meddwl bod unrhyw un o’r bois y tu allan i’r tîm neu sydd ddim yn y garfan bob amser yn brwydro,” meddai.
“Mae hi’r un fath o ran y bois yn y tîm a’r garfan, maen nhw’n brwydro i aros yno.
“Nid dim ond y blaenwyr, lle’r ydyn ni wedi arwyddo Jordan, ond mae gyda ni nifer o chwaraewyr da sydd â’r gallu i ddechrau a bod ynghlwm yn y [gêm] nesaf os nad ydyn nhw’n dechrau’r un yma.
“Edrychwch ar y penwythnos o ran Wayne Routledge a Liam Cullen yn chwarae, ac mae gyda ni Andre [Ayew] a Jamal [Lowe] yn ogystal â Jordan.
“Mae gyda ni opsiynau, a dw i’n credu bod hynny’n [beth] iach, yn enwedig o ran yr amserlen oherwydd, fwy na thebyg, bydd angen mwy na’r swm craidd arferol o chwaraewyr arnoch chi.
“Gorau po fwyaf o gryfder sydd gyda ni o ran niferoedd, felly mae cystadleuaeth am lefydd yn beth da ac rydyn ni’n teimlo bod gyda ni hynny mewn sawl safle.”