Mae Gerwyn Price wedi cipio pedwar gwobr arall ar ôl dod yn bencampwr y byd yn ddiweddar.
Mae’r Cymro wedi codi i frig rhestr detholion y byd, ac roedd e a’i gydwladwr Jonny Clayton wedi ennill Cwpan y Byd i Gymru eleni.
Roedd llwyddiannau pellach iddo fe yn Grand Prix y Byd a Chyfres y Byd, yn ogystal â Phencampwriaeth Gwlad Belg a phedair Pencampwriaeth y Chwaraewyr – dyma’r nifer fwyaf o wobrau i un chwaraewr yn y PDC mewn blwyddyn.
Yng ngwobrau blynyddol y PDC, fe gipiodd e’r gwobrau ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn,
Neithiwr (nos Lun, Ionawr 25), cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn, gan guro’r Iseldirwr Michael van Gerwen, y dyn y gwnaeth ei ddisodli ar frig y rhestr detholion ar ôl saith mlynedd o oruchafiaeth.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn ei Gyd-chwaraewyr hefyd, gan ennill mwy na 75% o’r bleidlais.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr hefyd, gyda 32% o’r bleidlais.
A’i bedwaredd oedd Chwaraewr Taith Broffesiynol y Flwyddyn ar ôl ennill £96,750 yn ystod y flwyddyn wrth ennill pum cystadleuaeth ar y Daith Ewropeaidd a Phencampwriaeth y Chwaraewyr.