Mae Ashley Williams, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, wedi cyhoeddi ei fod e wedi ymddeol o bêl-droed proffesiynol.

Arweiniodd Cymru i’w twrnamaint rhyngwladol cyntaf mewn 58 mlynedd yn Ewros 2016, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Yn ystod ei yrfa, enillodd e 86 o gapiau dros Gymru, gan chwarae 741 o gemau yng nghynghreiriau Lloegr.

Ar ôl dechrau ei yrfa gyda Hednesford Town ac yna Stockport County, gwnaeth ei farc ar ôl ymuno ag Abertawe yn 2008 wrth iddyn nhw gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn 2011, ac ennill Cwpan Capital One y Gynghrair yn 2013.

Gadawodd yr Elyrch yn 2016 gan ymuno ag Everton, cyn chwarae i Stoke a Bristol City.

Fodd bynnag, roedd e wedi bod heb glwb ers haf diwethaf.

‘Taith anghredadwy’

“Mae wedi bod yn daith anghredadwy ac yn un y byddaf yn edrych yn ôl arni gyda balchder,” meddai mewn neges ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol

“O chwarae y tu allan i’r Gynghrair i ddechrau i chwarae ar y lefel uchaf yn yr Uwch Gynghrair, yn ogystal â chael cap dros fy ngwlad ar 86 achlysur, cefais wireddu fy mreuddwydion.

“Bod yn gapten ar Gymru yn rownd gyn-derfynol yr Ewros yn 2016 oedd fy llwyddiant mwyaf ac mae’n rhywbeth na fydda i fyth yn ei anghofio.

“Hoffwn ddiolch i’m holl gyn-gyd chwaraewyr, rheolwyr, staff ystafell gefn a chefnogwyr; hebddyn nhw, ni fyddai pêl-droed proffesiynol yn bodoli.

“Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i fy nheulu anhygoel, fy ffrindiau a’m cwmni rheoli New Era Global Sports, sydd wedi fy nghefnogi bob cam o’r daith.

“Mae pêl-droed wedi dysgu cymaint i fi ar y cae ac oddi arno a byddaf yn defnyddio’r gwersi hyn yn y bennod nesaf yn fy mywyd.

“Edrychaf ymlaen at barhau i fod yn rhan o’r gêm yn y dyfodol.

“Diolch eto.”

Ymateb

Ymhlith y llu o deyrngedau i’r amddiffynwr ar ei ymddeoliad, efallai mae’r gorau oedd neges Owain Fôn Williams, gôlgeidwd Cymru, ar Twitter:

“Am ddyn ac am arweinydd, y gorau dwi erioed wedi’i weld. Fel chwaraewr ac fel ffan byddaf yn ddiolchgar am byth am bopeth a wnaeth y dyn hwn dros Gymru. Enillydd pur, bwystfil yng nghrys Cymru. Ymddeoliad hapus Ash, diolch am yr holl atgofion,” meddai.