Mae gêm bêl-droed Casnewydd yn erbyn Caerliwelydd yn yr Ail Adran heno (nos Fawrth, Ionawr 26) wedi cael ei gohirio oherwydd fod cae Rodney Parade yn rhy wlyb.

Aeth y tirmyn ati i ofalu am y cae yn dilyn eira a glaw trwm dros y dyddiau diwethaf.

Ond cafodd archwiliad ei gynnal gan y dyfarnwr heddiw, ac fe benderfynodd nad oedd modd cynnal y gêm.

Mae Casnewydd wedi diolch i’r tirmyn am eu gwaith, gan ddweud y bydd manylion y gêm yn cael eu cyhoeddi unwaith bydd hi wedi cael ei symud i ddyddiad newydd.