Bydd rhaid i chwech o chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru sydd yn chwarae i glybiau yn Lloegr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fel rheol, bydd chwaraewyr sydd ddim wedi eu dewis i chwarae yn dychwelyd i’w clybiau, ond roedd Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn gobeithio na fyddai rhaid eleni er mwyn gwarchod swigen y tîm cenedlaethol a lleihau ymlediad y coronafeirws.

Mae’n bosib, felly, y bydd rhaid i Tomas Francis, Will Rowlands, Taulupe Faletau, Dan Biggar, Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit deithio ’nôl ac ymlaen yn ystod y gystadleuaeth.

Daw hyn wedi i Wayne Pivac ddweud yr wythnos ddiwethaf fod Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad.

“Gyda’r hyn sy’n digwydd, pobol yn mynd i mewn ac allan o glybiau ac yn ôl i’w cymunedau, neu i mewn ac allan o un swigen i’r llall, rwy’n credu mai dyna ble mae’r feirws yn dechrau cael ei drosglwyddo o berson i berson,” meddai yn ystod cynhadledd i’r wasg yr wythnos ddiwethaf.

“Hoffwn feddwl y byddai synnwyr cyffredin yn cael ei ystyried – a hynny er bod y rheolau yn dweud fel arall.”

Chwaraewyr i aros yn eu swigen 

Ers hynny, mae’r Uwch Gynghrair, prif adran clybiau rygbi Lloegr, wedi mynnu fod chwaraewyr Cymru yn dychwelyd os nad ydyn nhw’n chwarae.

Fodd bynnag, fydd dim rhaid i chwaraewyr sy’n rhan o garfan Lloegr wneud yr un peth.

Cytunodd Eddie Jones, prif hyfforddwr Lloegr, i ddewis carfan lai – 28 dyn – er mwyn sicrhau na fyddai rhaid i chwaraewyr ddychwelyd i’w clybiau yn ystod y gystadleuaeth.

Yn yr un modd, fydd dim rhaid i Gymru ryddhau chwaraewyr sydd yn chwarae i ranbarthau yng Nghymru.

Swigen Undeb Rygbi Cymru

Roedd rheolau Covid-19 ar waith yn ystod gemau’r hydref y llynedd, ac mae Wayne Pivac eisoes wedi dweud y bydd rheolau hyd yn oed yn llymach yn eu lle eleni.

Tra bod chwaraewyr yn rhan o’r swigen y llynedd, cafodd 700 o brofion eu cynnal a daethon nhw i gyd yn ôl yn negyddol.

“Y tro hwn, byddwn yn gwneud dwbl hynny a byddwn yn aros yn ein swigod yn hirach,” meddai Wayne Pivac.

“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r risg.”

Yn ystod yr hydref, roedd hawl gan chwaraewyr adael y swigen a dychwelyd adref o westy’r tîm am nifer o ddiwrnodau bob hyn a hyn.

Fodd bynnag, roedd Undeb Rygbi Cymru yn awgrymu iddyn nhw drin pawb fel pe bai ganddyn nhw’r feirws – a’r un fydd y canllawiau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Daeth carfan 36 dyn Cymru ynghyd am y tro cyntaf ddechrau’r wythnos cyn wynebu Iwerddon ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth fis Chwefror.

Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad i’r Chwe Gwlad, yn ôl Wayne Pivac

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r bygythiad mae’r coronafeirws yn ei roi ar y gystadleuaeth, yn enwedig oherwydd yr amrywiolyn newydd.”