Daeth cadarnhad y bydd gwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn cynnal Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru am y tro cyntaf fis nesaf.

Mae’r digwyddiad wedi’i symud o Gaerdydd oherwydd rheolau Covid-19, a bydd yn cael ei gynnal y tu ôl i ddrysau caëedig.

Y Celtic Manor oedd lleoliad cystadleuaeth golff Cwpan Ryder 2010, ac fe gafodd dau ddigwyddiad ar y Daith Ewropeaidd Golff – twrnameintiau’r Celtic Classic a Phencampwriaeth Agored Cymru – eu cynnal yno y tu ôl i ddrysau caëedig gyda phrotocolau Covid-19 mewn grym fis Awst y llynedd.

“Er mwyn cynnal digwyddiadau o’r maint hwn mae angen i ni sicrhau bod gan y lleoliad y cyfleusterau cywir a’i fod yn ddigon mawr i groesawu 128 o chwaraewyr a phawb sy’n gweithio ar y digwyddiad wrth ddilyn rheolau pellter cymdeithasol, hylendid, ynysu a’r holl reolau Covid-19 eraill,” meddai Barry Hearn, Cadeirydd Taith Snwcer y Byd.

“Does gennym ni ddim amheuaeth bod y Celtic Manor yn bodloni’r holl ofynion hyn, mae’n lleoliad gwych a bydd y chwaraewyr wrth eu bodd.”