Mae Wilfried Bony, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod yn awyddus i orffen ei yrfa yn yr Iseldiroedd gyda chlwb Vitesse.

Mae’r ymosodwr 32 oed, sydd heb glwb ar hyn o bryd, wedi bod yn ymarfer gyda Chasnewydd er mwyn cynnal ei ffitrwydd.

Fe fu’n siarad â gwefan VI yn yr Iseldiroedd, gan ddweud y byddai’n hoffi treulio chwe mis neu flwyddyn yno cyn ymddeol.

Rhwng 2011 a 2013, fe oedd prif sgoriwr y gynghrair gyda’r clwb, gan sgorio 31 o goliau ac fe ddaeth o fewn tair gôl i record Nikos Machlas i’r clwb.

“Dw i’n credu y byddai’n braf gorffen tymor cyfan neu hanner tymor gyda Vitesse,” meddai.

“Pe bai’r cyfle’n dod i ddychwelyd i’r Iseldiroedd, [byddwn] i’n hapus iawn.

“Byddai hynny’n ddiweddglo hapus i fi.”