Gêm gyfartal ddi-sgôr gafodd Wrecsam a Halifax ar y Cae Ras yn y Gynghrair Bêl-droed Genedlaethol neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 26).

Cafodd y gêm ei chynnal er gwaetha’r eira yn dilyn ymdrechion criw o wirfoddolwyr aeth ati i baratoi’r cae.

Byddai buddugoliaeth wedi codi Wrecsam i’r un nifer o bwyntiau â’u gwrthwynebwyr yn y tabl ond prin oedd cyfleoedd y naill dîm a’r llall i sgorio.

Ond roedd peth cyffro ar ddechrau’r ail hanner pan fu’n rhaid gohirio’r chwarae am gyfnod ar ôl i ci redeg ar y cae.

Daeth cyfle gorau Wrecsam, serch hynny, pan darodd Jordan Davies chwip o gic rydd dros y trawst yn dilyn trosedd ar Jordan Ponticelli.

Ond Halifax gafodd gyfle gorau’r gêm naw munud cyn y diwedd, pan fethodd Tahvon Campbell â manteisio ar groesiad Jeff King.