Mae Jozef Venglos, y rheolwr cyntaf o’r tu allan i wledydd Prydain i reoli un o dimau cynghreiriau pêl-droed Lloegr, wedi marw’n 84 oed.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar dîm Aston Villa yn 1990, gan dreulio un tymor siomedig wrth y llyw wrth iddyn nhw orffen yn ail ar bymtheg yn yr hen Adran Gyntaf – er iddyn nhw ddod yn ail y tymor blaenorol o dan Graham Taylor.

Ond roedd ei arwyddocad yn llawer mwy na hynny, wrth iddo arwain y ffordd i reolwyr o dramor, gyda llawer mwy ohonyn nhw’n rheoli yng ngwledydd Prydain yn ystod y blynyddoedd ers hynny.

Aeth yn ei flaen i’r Alban yn rheolwr ar Celtic yn 1998-99, er iddo fe brofi siom yn y fan honno hefyd wrth golli’r gynghrair i Rangers – er iddyn nhw drechu’r hen elyn o 5-1.

Yn is-reolwr tîm Tsiecoslofacia, enillodd y tîm cenedlaethol Bencampwriaeth Ewrop yn 1976 ac fe gafodd ei benodi’n rheolwr ddwy flynedd yn ddiweddarach a gorffen yn drydydd yn 1980.

Cyrhaeddodd y tîm wyth olaf Cwpan y Byd yn yr Eidal yn 1990 yn ystod ei ail gyfnod wrth y llyw, ac fe ddaeth yn rheolwr cyntaf Slofacia yn 1993 ar ôl i’r wlad fynd yn annibynnol.

Mae clybiau Aston Villa a Celtic wedi talu teyrnged iddo fe.