Mae Mick McCarthy, rheolwr newydd Caerdydd, wedi canu clodydd ei garfan cyn ei gêm gyntaf wrth y llyw oddi gartref yn erbyn Barnsley, sef tref enedigol y Gwyddel, heno (dydd Mercher, Ionawr 27, 7 o’r gloch).

Cafodd Neil Harris ei ddiswyddo ar Ionawr 22 ar ôl i’r Adar Gleision golli saith allan o’u wyth gêm ddiwethaf.

Ond mae Mick McCarthy yn dweud bod ymdrechion ei garfan wrth ymarfer wedi bod yn “wych”.

“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych ar y maes hyfforddi,” meddai.

“Rwy’ wedi bod yn falch iawn.

“Mae’n rhaid i ni ddechrau ennill gemau ac os ydyn ni’n gwneud hynny, rwy’n credu bod gennym yr ansawdd yn y tîm, unwaith fydd gennym yr hyder hwnnw.

“Bydd angen perfformiad pwerus, a lot o egni arnom, a bydd yn rhaid i ni gael hynny yn erbyn Barnsley yn sicr.”

“Prawf go iawn”

Dywed Mick McCarthy y bydd y gêm yn erbyn Barnsley yn “brawf go iawn” i Gaerdydd.

Mae Barnsley yn dod i mewn i’r gêm ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Norwich yng Nghwpan FA Lloegr.

“Bydd Barnsley yn brawf go iawn i ni,” meddai.

“Fe wnes i eu gwylio nhw’n curo Norwich ddydd Sadwrn yng Nghwpan yr FA.

“Maen nhw’n dîm sy’n llawn egni, yn dîm sy’n pwyso’n uchel ac yn mynd ar ôl eu gwrthwynebwyr.

“Bydd angen perfformiad cadarn arnom a dim ond drwy wneud hynny y gallwn adfer hyder y garfan.

“Dim ots pwy rydych chi’n chwarae yn eu herbyn yn y Bencampwriaeth, dyw hi byth yn mynd i fod yn gêm hawdd.”

“Dw i wrth fy modd o gael bod yma,” meddai rheolwr newydd Caerdydd

Mae Mick McCarthy wedi’i benodi tan ddiwedd y tymor
Neil Harris, rheolwr Caerdydd

Neil Harris yn gadael ei swydd

Daw’r penderfyniad i gael gwared â Neil Harris a David Livermore ar ôl i’r Adar Gleision golli saith allan o’u wyth gêm ddiwethaf