Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn cydnabod fod Brentford yn dîm cryf, ond mae’n dweud y bydd e ond yn canolbwyntio ar gryfderau ei dîm ei hun wrth iddyn nhw herio’i gilydd yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty heno (nos Fercher, Ionawr 27).

Dechreuodd yr Elyrch yr wythnos yn yr ail safle yn y tabl, ac maen nhw’n ddi-guro mewn saith gêm ar draws y cystadlaethau i gyd – ac maen nhw’n ddi-guro mewn deg gêm yn Stadiwm Liberty.

Mae Brentford yn bedwerydd yn y tabl, ddau bwynt y tu ôl i’r Elyrch ac mae ganddyn nhw gêm wrth gefn ar ôl rhediad o 16 o gemau’n ddi-guro yn y gynghrair.

Fe wnaeth y timau herio’i gilydd yn y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, gyda Brentford yn fuddugol dros y ddau gymal, ond mae’r Elyrch yn gobeithio mynd cam ymhellach y tymor hwn a gwthio am ddyrchafiad awtomatig.

‘Parchu’r gwrthwynebwyr’

“Ar eu dydd, maen nhw’n gallu bod yn dîm da ond gallwn ni fod hefyd,” meddai Steve Cooper.

“Os ydych chi’n poeni’n ormodol am y gwrthwynebwyr, dydych chi ddim yn poeni amdanoch chi eich hunain.

“Rydyn ni’n parchu’n holl wrthwynebwyr, gall y gynghrair hon eich dal chi pan nad ydych chi’n edrych.

“Felly fydd dim gwahaniaeth o ran mynd ati, byddwn ni’n parchu lle’r ydyn ni’n credu mae eu cryfderau nhw.

“Ond byddwn ni hefyd yn ymwybodol o le rydyn ni’n credu y gallwn ni ecsbloetio’u gwendidau.

“Rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ei reoli; ein perfformiad, ein syniad o’r hyn rydyn ni’n credu mae’n ei gymryd i ennill y gêm.”

Amgylchfyd positif

Mae Steve Cooper hefyd wedi canmol yr amgylchfyd positif ar y cae ymarfer yn Fairwood.

Ac mae’n dweud y bydd hynny’n allweddol yn ystod ail hanner y tymor wrth iddyn nhw geisio gorffen yn gryf.

“Mae yna wefr go iawn o amgylch y cae ymarfer,” meddai.

“Mae’r chwaraewyr a’r staff yn dod ymlaen yn dda â’i gilydd, ond maen nhw hefyd yn benderfynol iawn ac yn canolbwyntio ar ymdrechu i wella.

“Mae hynny’n bwysig iawn, ac rydych chi’n ei ’nabod e pan fo hynny gyda chi.

“Mae pawb yn gweithio yn yr eiliad, a fy ngwaith i yw sicrhau nad ydyn ni’n cymryd cam yn ôl o ran hynny nac yn dangos unrhyw ddifaterwch.

“Dw i’n credu mai dyna yw diwylliant perfformiad elit.

“Ein nod erioed oedd cael hynny, ac mae pawb yn mwynhau eu gwaith ar hyn o bryd, a boed i hynny barhau.”

Y tîm

Mae amheuon am y blaenwyr Liam Cullen a Wayne Routledge yn dilyn anafiadau yn erbyn Nottingham Forest dros y penwythnos.

Ond bydd yr Americanwr o asgellwr Jordan Morris ar gael i chwarae am y tro cyntaf ers symud ar fenthyg o Seattle.

Mae’r golwr Steven Benda, yr amddiffynnwr canol Brandon Cooper a’r cefnwr de Tivonge Rushesha i gyd allan am gyfnodau hir ag anafiadau, tra bod Ryan Bennett wedi gwella’n llwyr o anaf i linyn y gâr ar ôl dychwelyd ar gyfer y gêm ddiwethaf.